Jon Hamm

actor a aned yn St. Louis yn 1971

Actor, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu Americanaidd yw Jonathan Daniel Hamm (ganwyd 10 Mawrth 1971)[1][2] a gaiff ei adnabod orau am chwarae rhan Don Draper, gweithredwr hysbysebu, yng nghyfres deledu AMC, Mad Men (2007–2015).

Jon Hamm
Ganwyd10 Mawrth 1971 Edit this on Wikidata
St. Louis, Missouri, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Missouri
  • Prifysgol Texas, Austin
  • Ysgol John Burroughs, Missouri Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, cynhyrchydd ffilm, athro, cyfarwyddwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, waiter, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodAnna Osceola Edit this on Wikidata
PartnerJennifer Westfeldt Edit this on Wikidata
Gwobr/auGolden Globes, Gwobr Primetime Emmy am waith Arbennig fel Prif Actor mewn Cyfres Ddrama Edit this on Wikidata

Roedd yn byw yn Los Angeles am ran helaeth o ganol y 1990au, gan ymddangos mewn cyfresi teledu fel Providence, The Division, What About Brian, and Related. Yn 2000, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn ffilm nodwedd yn y ffilm antur gofod, Space Cowboys. Y flwyddyn ganlynol, cafodd ran bach yn y gomedi annibynnol, Kissing Jessica Stein (2001).

Cafodd led adnabyddiaeth pan ddechreuodd Mad Men yng Ngorffennaf 2007. Enillodd ei berfformiad ef Wobr Golden Globe ar gyfer Actor Gorau Mewn Cyfres Deledu – Drama yn 2008 ac eto yn 2016, a Gwobr Primetime Emmy ar gyfer yr Actor Gorau Mewn Cyfres Ddrama yn 2015. Cyfarwyddodd dwy bennod o'r sioe.

Yn 2008, ymddangosodd Hamm yn ailwampiad y ffilm ffuglen gwyddoniaeth The Day the Earth Stood Still. Roedd ei ran arweiniol cyntaf mewn ffilm yn 2010 yn y ddrama annibynnol Stolen. Cafodd hefyd rannau cefnogol yn ffilmiau The Town (2010), Sucker Punch (2011), a Bridesmaids (2011). Mae wedi derbyn 16 enwebiad Gwobr Primetime Emmy am ei berfformiadau yn Mad Men, 30 Rock (2006–2013), a Unbreakable Kimmy Schmidt (2015–presennol).

Mae ei gredydau teledu eraill yn cynnwys ymddangos yng nghyfres Sky Arts, A Young Doctor's Notebook a rhannau gwestai yn Black Mirror, Parks and RecreationWet Hot American Summer: First Day of Camp. Mae hefyd wedi cael rhannau lleisio yn ffilmiau Shrek Forever After (2010) a Minions (2015).

Cyfeiriadau golygu

  1. "Monitor". Entertainment Weekly (1250). March 15, 2013. t. 23.
  2. "Jon Hamm". TVGuide.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar September 6, 2015.