Jonathan Hughes
Bardd Cymraeg oedd Jonathan Hughes (17 Mawrth 1721 – 25 Tachwedd 1805). Mae'n adnabyddus yn bennaf fel awdur y gyfrol Bardd a Byrddau (1778).[1] Fe'i ganed yn "Nhy'n y Pistyll", Pengwern, Llangollen, Sir Ddinbych ar 17 Mawrth 1721.
Jonathan Hughes | |
---|---|
Ganwyd | 17 Mawrth 1721 Neuadd Pengwern |
Bu farw | 25 Tachwedd 1805 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Gwaith llenyddol
golyguAmlygwyd ei ddawn farddol yn gynnar yn ei fywyd. Roedd yn un o gyfeillion y bardd ac anterliwtwr Twm o'r Nant. Fel Twm, ac yn ei gwmni'n aml, bu'n cystadlu yn yr eisteddfodau a drefnwyd gan y Gwyneddigion yn negawdau olaf y 18g. Roedd yn fardd cynhyrchiol iawn a oedd yn feistr ar y mesurau carol Cymraeg traddodiadol. Erys llawer o'r cerddi hyn mewn llawysgrif heb eu cyhoeddi a'r unig gyfrol a gyhoeddodd yn ystod ei oes oedd Bardd a Byrddau a hynny yn 1778. Gwyddys iddo gyfansoddi o leiaf un anterliwt hefyd, sef Y Dywysoges Genefetha, a gyhoeddwyd yn 1744. Pan fu farw yn 1805 lluniodd ei gyfaill Twm o'r Nant englyn ar gyfer ei garreg fedd.[1]
Cofebion
golyguSonia George Borrow amdano ac mae ei enw ar gofeb a gynlluniwyd gan y pensaer Dewi Prys Thomas ym Mhlas Newydd (Llangollen).
Llyfryddiaeth
golygu- Y Dywysoges Genefetha (1744)
- Bardd a Byrddau (Stafford Prys, Amwythig, 1778)
- Gemwaith Awen Beirdd Collen (tua 1807). Detholiad o gerddi gan feirdd ardal Llangollen a gyhoeddwyd gan fab Jonathan Hughes. Gwaith Jonathan Hughes yw swmp y cynnwys.