Stafford Prys
Argraffydd a gwerthwr llyfrau oedd Stafford Prys (1732 - 1784). Yn ei gyfnod ef, prin oedd y llyfrau a argraffwyd yng Nghymru a daeth gwasg Prys yn Amwythig yn un o brif argraffweisg Cymraeg y 18g, yn enwedig ar gyfer Gogledd Cymru.
Stafford Prys | |
---|---|
Ganwyd | 1732 Llanwnnog |
Bu farw | 1784 |
Man preswyl | Amwythig |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llyfrwerthwr, argraffydd |
Cymro oedd Prys, yn fab i'r meddyg Stafford Price o blwyf Llanwnnog, Maldwyn a'i wraig Mary Evans, o dras teulu Stradlingiaid Morgannwg. Ni wyddys os cafodd ei eni yng Nghymru neu yn Swydd Amwythig. Treuliodd ran helaeth ei oes dros y ffin yn Amwythig lle sefydlodd siop lyfrau a hefyd argraffwasg, a sefydlodd yn 1758. Priododd Ann (1737-1826), merch Thomas Bright o Amwythig. Ar ôl marwolaeth Prys yn 1784 parhaodd ei weddw i redeg y busnes teuluol am gyfnod.[1]
Llyfrau
golyguYmhlith y llyfrau a phamffledi niferus a argaffwyd ganddo, gellir nodi:
- Blodeu-gerdd Cymry (1759; ail argraffiad 1779), blodeugerdd Gymraeg a gyhoeddwyd gan Dafydd Jones o Drefriw,[2]
- Gorchestion Beirdd Cymru (1773), casgliad pwysig o gerddi canoloesol a gyhoeddwyd gan Rhys Jones y Blaenau. Mae'n llyfr ffolio cain y cyfeirir ato yn draddodiadol fel "Y Bais Wen" oherwydd yr ymylon mawr gwyn o gwmpas y testun.
- Bardd a Byrddau (1778), casgliad swmpus o gerddi ar y mesurau carol traddodiadol gan Jonathan Hughes.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Ar-lein
- ↑ William Rowlands, Llyfryddiaeth y Cymry (1869).
Llyfryddiaeth
golygu- Ifano Jones, A history of printing and printers in Wales to 1810, and of successive and related printers to 1923 (1925)
- Llewelyn C. Lloyd , 'The Book-Trade in Shropshire', Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society (1935, 1936).