Jonathan Sacks, Barwn Sacks

Rabi Uniongred, diwinydd, ac athronydd o Loegr oedd Jonathan Henry Sacks, Barwn Sacks (8 Mawrth 19487 Tachwedd 2020) a fu'n Brif Rabi Prydain Fawr a'r Gymanwlad o 1991 i 2013.

Jonathan Sacks, Barwn Sacks
Jonathan Sacks yn 2006.
GanwydJonathan Henry Sacks Edit this on Wikidata
8 Mawrth 1948 Edit this on Wikidata
Lambeth Edit this on Wikidata
Bu farw7 Tachwedd 2020 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethrabi, gwleidydd, diwinydd, academydd Edit this on Wikidata
SwyddChief Rabbi, aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auGwobr Grawemeyer, Gwobr Templeton, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Basel, doethur anrhydeddus Prifysgol St Andrews, doethur anrhydeddus Prifysgol Glasgow, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Caergrawnt, Doethuriaeth Anrhydeddus Prifysgol Haifa, honorary doctor of the Bar-Ilan University, MBE, honorary doctor of Yeshiva University, Marchog Faglor Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://rabbisacks.org Edit this on Wikidata

Ganed yn Lambeth, Llundain, yn fab i Louis Sacks, marsiandïwr a ymfudodd o Wlad Pwyl, a'i wraig Louisa, Frumkin gynt. Yn wahanol i'r rhelyw sydd wedi gwasanaethu yn swydd y prif rabi, nid oedd Jonathan Sacks yn un o linach o rabïaid. Mynychodd ysgol ramadeg Christ's College yn Finchley, gogledd Llundain, a derbyniodd radd baglor dosbarth-cyntaf mewn athroniaeth o Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt. Teithiodd ar draws Unol Daleithiau America yn ystod haf 1967, yn 19 oed, ar fysiau Greyhound. Cyfarfu â sawl Iddew blaenllaw yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys y "Rebbe" Menachem Mendel Schneerson, a phenderfynodd Sacks hyfforddi i fod yn rabi yn hytrach na chyfrifydd. Priododd Jonathan Sacks ag Elaine Taylor ym 1970, a chawsant dri phlentyn.[1]

Cafodd Sacks ei ordeinio'n rabi ym 1976 yng Ngholeg yr Iddewon (bellach Ysgol Astudiaethau Iddewig Llundain). Treuliodd gyfnod yn arwain addysg grefyddol i blant yn Luton cyn iddo gael ei benodi'n rabi synagog Golders Green ym 1978. Trosglwyddodd i synagog Marble Arch, a bu'n rabi yno o 1983 i 1990. Gwasanaethodd hefyd yn brifathro ar Goleg yr Iddewon o 1984 i 1990.[1]

Ym 1990 dewiswyd Sacks i olynu'r Barwn Jakobovits yn Brif Rabi Cynulleidfaoedd Hebreaidd Unedig Prydain Fawr a'r Gymanwlad. Cafodd gyfeillgarwch agos â George Carey, Archesgob Caergaint. Cafodd ei urddo'n farchog yn 2005 ac yn arglwydd am oes yn 2009. Bu ei lais yn gyfarwydd i wrandawyr "Thought for the Day" ar raglen Today, BBC Radio 4. Cafodd ei olynu yn swydd y prif rabi gan Ephraim Mirvis yn 2013. Penodwyd Sacks yn athro meddwl Iddewig ym Mhrifysgol Yeshiva, Efrog Newydd, yn 2013. Bu farw o ganser yn 2020 yn 72 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Jenni Frazer, "Lord Sacks obituary", The Guardian (8 Tachwedd 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 25 Mehefin 2021.
  2. ""Warmest human spirit": UK's former chief rabbi Sacks dies". ABC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.