Jonathan Thomas
Chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Jonathan Thomas (ganed 27 Rhagfyr 1982). Mae'n chwarae i'r Gweilch fel blaenasgellwr, ac mae wedi cynrychioli Cymru nifer o weithiau.
Jonathan Thomas | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1982 ![]() Penfro ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb ![]() |
Taldra | 196 centimetr ![]() |
Pwysau | 110 cilogram ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Gweilch, Clwb Rygbi Abertawe ![]() |
Safle | blaenasgellwr ![]() |
Gwlad chwaraeon | Cymru ![]() |
Ganed Jonathan Thomas yn nhref Penfro. Bu'n chwarae rygbi i Glwb Rygbi Abertawe cyn trosglwyddo i'r Gweilch pan ddechreuwyd rygbi rhanbarthol yn 2003.
Ar ôl chwarae dros Gymru ar lefel dan-21, enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yn 2003. Daeth i sylw trwy ei berfformiad yn y gêm yn erbyn y Crysau Duon yng Nghwpan y Byd yr un flwyddyn. Roedd yn rhan allweddol o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 2008.