Clwb Rygbi Abertawe

Mae Clwb Rygbi Abertawe yn dîm rygbi'r undeb Cymreig sy'n chwarae yn Prifadran Cymru. Mae'r clwb yn chwarae ar Faes Rygbi a Chriced St Helen yn Abertawe ac fe'u gelwir hefyd Y Crysau Gwynion gan gyfeirio at liw eu cit cartref a'r Jacs, llysenw am bobl o Abertawe.

Clwb Rygbi Abertawe
Enw llawnClwb Rygbi Abertawe
Llysenw/auY Jacs
Y Crysau Gwynion
Sefydlwyd1872; 152 blynedd yn ôl (1872)[1]
LleoliadAbertawe  Cymru
Maes/yddMaes St Helen Abertawe (Nifer fwyaf: 4,500)
Lliwiau cartref

Hanes golygu

Sefydlwyd y clwb ym 1872 [2] fel tîm pêl-droed y gymdeithas, gan newid i'r côd rygbi ym 1874. Ym 1881 daeth yn un o'r 11 o glybiau sylfaen Undeb Rygbi Cymru . [3] [4]

 
Tîm Abertawe a enillodd Gwpan Her De Cymru, o'r Illustrated Sporting and Dramatic News

Hyd ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf golygu

Yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif roedd Clwb Rygbi Abertawe yn glwb hynod lwyddiannus. Am bedwar tymor yn olynol, rhwng tymor 1898/99 hyd dymor 1901/02, Abertawe oedd pencampwyr answyddogol Cymru. Dyma oedd cyfnod anterth seren gyntaf Abertawe, Billy Bancroft O dan gapteiniaeth Frank Gordon byddai'r tîm yn ddiweddarach yn mynd ar rediad diguro o 22 mis, o fis Rhagfyr 1903 hyd at Hydref 1905. Yn ystod y cyfnod hwn roedd yn ymddangos nad oedd Abertawe yn cael chware teg gan ddewiswyr rhyngwladol Cymru. O ystyried eu llwyddiant ar lefel clwb, prin oedd y rhai a dewiswyd i chwarae i Gymru yn y blynyddoedd cynnar o gymharu â chlybiau eraill. Aeth Frank Gordon heb gap trwy gydol ei yrfa. Ar wahân i Billy Trew, Dick Jones a Dicky Owen, yr unig chwaraewyr rhyngwladol eraill yn y tîm oedd y blaenwr Sid Bevan (1 cap), [5] yr asgellwr Fred Jowett (1 cap) [6] a'r maswr Phil Hopkins (4 cap). [7] Roedd Trew (29 cap) yn ganolwr rhagorol a gafodd ei derbyn fel un o'r chwaraewyr pwysicaf yn esblygiad rygbi Cymru, [1] tra bod Dicky Owen (35 cap), yn dactegydd anhygoel. [8]

Ar ôl y rhyfel hyd y 1990au golygu

Dim ond llwyddiant cyfyngedig a ddaeth yn ystod y blynyddoedd uniongyrchol ar ôl y rhyfel, er y cafwyd gêm gyfartal nodedig o 6 phwynt yr un yn erbyn Seland Newydd ym 1953 ac yna buddugoliaeth o 9-8 yn erbyn Awstralia ym 1966. Bu'n rhaid disgwyl hyd dymor canmlwyddiant y clwb ym 1973/74, i ddod i frig y Tabl Teilyngdod. Cafodd Abertawe lwyddiant pellach fel pencampwyr y clybiau ym 1979/80, 1980/81, 1982/83 yn ogystal â bod yn enillwyr cwpan Cymru ym 1978.

Ymhlith y chwaraewyr yn ystod y cyfnod hwn roedd Clem Thomas, Billy Williams, Dewi Bebb, Mervyn Davies, Geoff Wheel, David Richards a Mark Wyatt, deiliad record sgoriwr pwyntiau'r clwb gyda 2,740 o bwyntiau wedi'u sgorio rhwng 1976/77 a 1991/92.

1990 i ddiwedd y mileniwm golygu

Gwelodd y 1990au lwyddiant i'r clwb, gan gynnwys bod yn bencampwyr y brifadran ar 4 achlysur (1991/92, 1993/94, 1997/98 a 2000/01) ac enillwyr cwpan Cymru ym 1995 a 1999. Cofnodwyd buddugoliaeth gofiadwy 21-6 dros bencampwyr y Byd, Awstralia, ar Faes St Helen ar 4 Tachwedd 1992. Yn nhymor 1995/96 fe gyrhaeddodd Abertawe gam rownd cynderfynol Cwpan Ewrop. Roedd y cyfnod hwn hefyd yn cynnwys anghydfodau ag Undeb Rygbi Cymru ynghylch y ffordd yr oedd strwythur y gynghrair yn cael ei redeg yng Nghymru yn dilyn troi rygbi'r undeb i fod yn gêm broffesiynol, a ddaeth i ben gyda'r clwb yn gwrthod bod yn rhan o'r gynghrair yn nhymor 1998/99. [9]

Ers dechrau'r Mileniwm golygu

Roedd tymor 2003/04 yn un lle gwelwyd newid sylweddol gyda chyflwyniad rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Mae Clwb Rygbi Abertawe Cyf, â Chlwb Rygbi Castell-nedd yn gydberchnogion tîm rhanbarthol y Gweilch. O ganlyniad, dychwelodd Clwb Rygbi Abertawe i fod yn dîm amatur. Ers y newid i rygbi rhanbarthol mae sawl chwaraewr wedi chwarae i Glwb Rygbi Abertawe, yn ogystal â'r Gweilch a Chymru gan gynnwys Alun Wyn Jones, Ryan Jones, Scott Baldwin, Nicky Smith, Matthew Morgan, Eli Walker, Gavin Henson a Dan Biggar.

Yn 2014 cafodd yr Y Crysau Gwynion eu gostwng o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwrnod olaf y tymor, er gwaethaf curo Castell-nedd yn St Helen. Bu pwynt bonws i Aberafan yn ddigon i ddanfon Abertawe i lawr i Bencampwriaeth SWALEC. Ysgogodd hyn ailwampiad llwyr o’r clwb gyda Stephen Hughes yn cymryd swydd y Cadeirydd, Keith Colclough yn Rheolwr Gyfarwyddwr a Richard Lancaster yn arwain tîm hyfforddi o gyn-chwaraewyr gan gynnwys Rhodri Jones, Chris Loader a Ben Lewis. Yn eu tymor cyntaf fe fethodd Abertawe ennill dyrchafiad yn ôl i'r Uwch Gynghrair, gan orffen yn yr ail safle. Ond o ganlyniad i newid strwythur y cynghrair fe'u dyrchafwyd yn nhymor 2015/16 gyda Merthyr, RGC 1404 a Bargoed.

Cafodd Abertawe drafferth i addasu i’r Uwch Gynghrair yn eu dau dymor cyntaf yn ôl ar yr haen uchaf er gwaethaf rhestr anafiadau llethol, dangosodd tymor 1917/18 lawer o addewid gyda’r ochr yn recordio pum buddugoliaeth, gêm gyfartal a 10 pwynt bonws am golli’r gêm o fewn 7 pwynt.

Bu'n rhaid gohirio tymor 2019/20 a 2020/21 oherwydd COVID-19

Merched Clwb Rygbi Abertawe golygu

Ar gyfer tymor 2016/17 sefydlwyd tîm Merched Clwb Rygbi Abertawe ac ers hynny maent wedi ennill yr Uwch Gynghrair gefn wrth gefn. Yn 2019 fe wnaethant ennill Cwpan y Merched am y trydydd tymor yn olynol. Maent hefyd yn darparu craidd o chwaraewyr i garfan merched Cymru. [10]


Llwyddiannau golygu

Trechodd Clwb Rygbi Abertawe Seland Newydd 11-3 ddydd Sadwrn 28 Medi 1935, gan ddod yr ochr clwb gyntaf erioed i guro'r Crysau Duon. [11] Fe wnaeth y fuddugoliaeth hefyd eu gwneud y tîm clwb cyntaf i guro pob un o'r tri thîm teithiol mawr i Brydain. Roeddent eisoes wedi curo Awstralia ym 1908 a De Affrica ym 1912. [12]

Ym mis Tachwedd 1992, trechodd Clwb Rygbi Abertawe bencampwyr y byd Awstralia 21–6, pan chwaraeodd Awstralia eu gêm gyntaf o’u Taith Gymreig.

Pencampwyr Prifadran Cymru yn:

  • 1991/1992
  • 1993/1994
  • 1997/1998
  • 2000/2001

Pencampwyr Cwpan Her URC yn:

  • 1977/1978
  • 1994/1995
  • 1998/1999

Pencampwyr Tabl Teilyngdod Whitbread yn:

  • 1980/1981

Pencampwyr Tlws Saith Pob Ochr Cymru yn:

  • 1982
  • 1989
  • 1991
  • 1995

Llewod Prydeinig a Gwyddelig golygu

Dewiswyd y cyn-chwaraewyr canlynol ar gyfer sgwadiau teithiol Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.

Capteiniaid Rhyngwladol Cymru golygu

Bu'r cyn-chwaraewyr canlynol yn gapten ar dîm undeb rygbi cenedlaethol Cymru wrth chwarae i Glwb Rygbi Abertawe.

Cyn-chwaraewyr nodedig eraill golygu

Mae'r chwaraewyr a restrir isod wedi chwarae i Abertawe a hefyd wedi chwarae rygbi rhyngwladol.

Gemau yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol golygu

Blwyddyn Dyddiad Gwlad Canlyniad Sgôr Taith
1888 24 Rhagfyr   Māori Seland Newydd Colli 0–5 1888–89 Taith Māori Seland Newydd
1905 30 Rhagfyr   Seland Newydd Colli 3–4 1905 Taith y Crysau Duon Gwreiddiol
1908 26 Rhagfyr   Awstralia Ennill 6–0 1908–09 Taith Awstralia o amgylch Prydain
1912 26 Rhagfyr   De Affrica Ennill 3–0 1912–13 Taith De Affrica o amgylch Ewrop
1931 10 Hydref   De Affrica Colli 3–10 1931–32 Taith De Affrica o amgylch Prydain ac Iwerddon
1935 28 Medi   Seland Newydd Ennill 11–3 1935–36 Taith Seland Newydd o amgylch Prydain, Iwerddon a Chanada
1951 15 Rhagfyr   De Affrica Colli 3–11 1951–52 Taith De Affrica o amgylch Ewrop
1953 12 Rhagfyr   Seland Newydd Cyfartal 6–6 1953–54 Taith Seland Newydd
1963 14 Rhagfyr   Seland Newydd Colli 9–16 1963–64 Taith Seland Newydd
1966 26 Tachwedd   Awstralia Ennill 9–8 1966–67 Taith Awstralia o amgylch Prydain, Iwerddon a Ffrainc
1973 8 Medi   Ffiji Colli 0–31 1973 Taith Fiji o amgylch Ynysoedd Prydain a Chanada
1973 3 Tachwedd   Awstralia Cyfartal 9–9 1973 Taith undeb rygbi Awstralia o amgylch Ewrop[21]
1975 29 Tachwedd   Awstralia Colli 6-12 1975–76 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon[22]
1980 25 Hydref   Seland Newydd Colli 0-32 1980 Taith Seland Newydd[23]
1981 28 November   Awstralia Colli 3-12 1981–82 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon[24]
1982 30 Hydref   Māori Seland Newydd Ennill 15-12 1982 Taith Māori Seland Newydd
1984 30 Hydref   Awstralia Colli 7-17 1984 Taith Awstralia o amgylch Prydain ac Iwerddon
1985 16 Hydref   Ffiji Colli 14–23 1985 Taith Fiji o amgylch Ynysoedd Prydain
1989 21 Hydref   Seland Newydd Colli 22–37 1989 Taith Seland Newydd o amgylch Ynysoedd Prydain a Chanada
1992 4 Tachwedd   Awstralia Ennill 21–6 1992 Taith Awstralia o amgylch Europe

Llyfryddiaeth golygu

  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwyddoniadur Cymru, John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines a Peredur Lynch (2008) pp792 ISBN 978-0-7083-1954-3
  2. David Farmer ("The All Whites - the Life & Times of Swansea RFC" (DFPS Ltd 1995)p1
  3. Swansea Rugby Football Club 1873-1945 Book - Images of Sport, Bleddyn Hopkins. Tempus Publishing
  4. Smith (1980), tud 41.
  5. 5.0 5.1 5.2 Smith (1980), tud 463.
  6. Smith (1980), tud 468.
  7. Smith (1980), tud 134.
  8. Smith (1980), tud 132.
  9. Laybourn, Ian (22 August 1998). "Rebel clubs secede from WRU". The Independent. Independent Print Limited.
  10. "Wales stars set for Principality Stadium". Six Nations Rugby. 2019-05-03. Cyrchwyd 2021-02-24.
  11. All Blacks: 288th All Black Game
  12. "28 September down the years All Blacks humbled at St. Helens". ESPN. Cyrchwyd 27 December 2017.
  13. Smith (1980), tud 472.
  14. Smith (1980), tud 464.
  15. "Frederick Graham Andrews". ESPN scrum. Cyrchwyd 2021-02-25.
  16. Websites - 3bit.co.uk, We Build. "Chris Anthony | Dragons Player". www.dragonsrugby.wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-25.
  17. "Past Player Profile – The Legend Paul Arnold – Carmarthen Quins : Official Website" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-02-25.
  18. "BANCROFT, WILLIAM JOHN (1871-1959), chwaraewr rygbi a chriced. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-02-25.
  19. "Obituary: Dewi Bebb". The Independent. 2011-10-23. Cyrchwyd 2021-02-25.
  20. Smith (1980), tud 473.
  21. Jenkins, Vivian (1974). Rothmans Rugby Yearbook 1974–75. Queen Anne Press. t. 36. ISBN 0-362-00173-1.
  22. Jenkins, Vivian (1976). Rothmans Rugby Yearbook 1976–77. Queen Anne Press. t. 22. ISBN 0-362-00281-9.
  23. Jenkins, Vivian (1982). Rothmans Rugby Yearbook 1981–82. Rothmans Publications Ltd. t. 42. ISBN 0-907574-05-X.
  24. Jenkins, Vivian (1983). Rothmans Rugby Yearbook 1982–83. Rothmans Publications Ltd. t. 24. ISBN 0-907574-13-0.