Jordan Williams
Pêl-droediwr Cymreig yw Michael Jordan Williams (ganwyd 6 Tachwedd 1995). Mae'n chwarae i Swindon Town ar fenthyg o Lerpwl. Mae'n gallu chwarae fel canol cae canolog neu fel amddiffynnwr canolog.
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Michael Jordan Williams | ||
Dyddiad geni | 6 Tachwedd 1995 | ||
Man geni | Bangor, Cymru | ||
Taldra | 1.88 m | ||
Safle | Canol Cae Amddiffynnwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Swindon Town (ar fenthyg o Lerpwl) | ||
Rhif | 5 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
Wrecsam | |||
2009–2014 | Lerpwl | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2014– | Lerpwl | 0 | (0) |
2015 | → Notts County (ar fenthyg) | 8 | (0) |
2015– | → Swindon Town (ar fenthyg) | 4 | (0) |
Tîm Cenedlaethol | |||
Cymru dan 17 | |||
2014– | Cymru dan 21 | 1 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 26 Awst 2015 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ganwyd Jordan Williams ym Mangor, ac aeth i'r ysgol yn Ysgol y Garnedd.[1]
Ar 23 Medi 2014, gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Lerpwl pan y defnyddiwyd fel eilydd yn erbyn Middlesbrough. Sgoriodd Williams yn y saethfa ciciau cosb.[2]
Yng Ngorffennaf 2015, ymunodd Jordan Williams a Swindon Town ar fenthyg am dymor o Lerpwl. Cafodd ei alw i chwarae i dîm cenedlaethol Cymru yn Awst 2015.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cymro 19 oed yn sgorio i Lerpwl". Golwg 360. Cyrchwyd 25 September 2014.
- ↑ "Cymro 19 oed yn sgorio i Lerpwl". Golwg 360. Cyrchwyd 26 Awst 2015.