Bardd a nofelydd o Golombia yn yr iaith Sbaeneg oedd Jorge Isaacs (1 Ebrill 183717 Ebrill 1895) sydd yn nodedig am ei nofel María (1867).[1]

Jorge Isaacs
GanwydJorge Ricardo Isaacs Ferrer Edit this on Wikidata
1 Ebrill 1837 Edit this on Wikidata
Cali Edit this on Wikidata
Bu farw17 Ebrill 1895 Edit this on Wikidata
Ibagué Edit this on Wikidata
DinasyddiaethColombia Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd, ysgrifennwr, milwr, bardd Edit this on Wikidata
Swyddmember of the Chamber of Representatives of Colombia, President of the Sovereign State of Antioquia Edit this on Wikidata
Adnabyddus amMaría Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Colombia Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth Edit this on Wikidata

Ganed yn Cali, Talaith Cauca, yn fab i Iddew o Loegr. Etifeddodd ystadau ei dad, ond collodd ei gyfoeth yn sgil difrod Rhyfel y Cauca (1860–63). Ymsefydlodd yn Bogotá yn 1864 a chyhoeddodd gyfrol o gerddo, Poesías (1864).

Yn 1867 enillodd glod am ei nofel ramantaidd María, gwaith sydd yn nodweddiadol o costumbrismo y 19g ac yn un o glasuron llên America Ladin. Bu farw yn Ibagué, Talaith Tolima, yn 58 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Jorge Isaacs. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Tachwedd 2019.