Josep Lluís Trapero Álvarez
Pennaeth heddlu Catalwnia, neu'r Mossos d'Esquadra oedd Josep Lluís Trapero Álvarez (ganwyd Badalona, 1965) a ddiswyddwyd gan Lywodraeth Sbaen wedi iddyn nhw alw Erthygl 155 yn eu hymdrech i reoli Llywodraeth Catalwnia. Diswyddwyd ef ar 28 Hydref 2017 wedi 26 mlynedd gyda'r Mossos.[1] Yn 2013 fe'i gwnaed yn Gomisiynydd yr Heddlu ac yn Brif Heddwas yn 2017, gan ddilyn Joan Unió.[2][3]
Josep Lluís Trapero Álvarez | |
---|---|
Ganwyd | 12 Rhagfyr 1965 Badalona |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Mosso d'Esquadra, academydd |
Swydd | Prif Heddwas y Mossos d'Esquadra, Comisiynydd y Mossos d'Esquadra, Comisiynydd y Mossos d'Esquadra, Director of Catalan Police |
Cyflogwr | |
llofnod | |
Oherwydd ei safiad, ni chymerodd y Mossos unrhyw ran yn ymgyrch Heddl Sbaen i atal Refferendwm ynghylch annibyniaeth Catalwnia 2017.
Yn ystod Ymosodiad Barcelona, Awst 2017 gweithredodd fel y prif ymchwilydd y Mossos, a derbyniodd ganmoliaeth uchel o bob cyfeiriad.
Diswyddiad
golyguAr 4 Hydref 2017, yn dilyn Refferendwm 2017, cyhuddwyd Trapero gan erlynwyr Sbaen o Sedición, sef 'annog gwrthryfel'.[4] honir iddo wrth a gweithredu gorchmynion Llywodraeth Sbaen gan fod y Mossos yn atebol ac yn gyflogedig gan Lywodraeth Catalwnia. Gall y cyhuddiad hwn ddwyn cosb o hyd at 15 mlynedd o garchar. Anogodd ei heddweision "i fod yn hynod o oddefol ac ymatal rhag unrhyw fath o drais".[5]
Ar 16 Hydref 2017 mynnodd erlynwyr Sbaen fod Trapero'n cael ei garcharu heb achos llys.[6] Ymatebodd barnwr o Ffrainc i hyn drwy ei ganiatau iddo fod yn rhydd, ar yr amod ei fod yn ymweld a'r llys pob pythefnos, gyda'i basport.
Ar 28 Hydref penodwyd Ferran López yn brif heddwas y Mossos; gwnaed y penodiad gan Weinidog Llywodraeth Sbaen, Juan Ignacio Zoido.[7][8][9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Spanish PM removes Catalan regional premier from post, calls December 21 polls Archifwyd 2017-10-30 yn y Peiriant Wayback, elpais.es, 28 October 2017
- ↑ "Josep Lluís Trapero, designat nou major dels Mossos d'Esquadra" [Josep Lluís Trapero, designated new Mossos d'Esquadra Major] (yn Catalan). Barcelona: btvnotícies. 18 Ebrill 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-10. Cyrchwyd 9 Medi 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ "Josep Lluís Trapero és el nou major dels Mossos, un càrrec vacant des del 2008" [Josep Lluís Trapero the new Mossos Major, a vacancy since 2008] (yn Catalan). Barcelona: Corporació Catalana de Mitjans Audiovisuals. 18 April 2017. Cyrchwyd 9 Medi 2017.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Stothard, Michael (4 Hydref 2017). "Catalan police chief faces sedition investigation". Financial Times. Madrid. Cyrchwyd 4 Hydref 2017.
- ↑ Badcock, James (4 Hydref 2017). "Catalonia's police chief faces sedition charge for 'allegedly failing to follow orders' ahead of referendum". The telegraph. Madrid. Cyrchwyd 7 Hydref 2017.
- ↑ Associated Press, gol. (16 Hydref 2017). "The Latest: Spain asks for jailing of Catalonia police chief". The Washington Post. Barcelona. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-25. Cyrchwyd 16 Hydref 2017.
- ↑ López-Fonseca;erthygl gan J. Pérez, Óscar: La Fiscalía pide prisión incondicional para Trapero por la inacción de los Mossos yn EL PAÍS
- ↑ AP, gol. (16 Hydref 2017). "Spanish judge grants freedom with restrictions to Catalonia police chief". Oxford Times. Cyrchwyd 16 Hydref 2017.
- ↑ Zoido nomena Ferran López nou cap dels Mossos; ElNacional.cat; 28 Hydref 2017