Joseph Goebbels
Un o brif arweinwyr y Blaid Natsïaidd yn yr Almaen oedd Paul Joseph Goebbels (29 Hydref 1897 – 1 Mai 1945).
Joseph Goebbels | |
---|---|
Ganwyd | Paul Joseph Goebbels 29 Hydref 1897 Rheydt |
Bu farw | 1 Mai 1945 Berlin, Führerbunker |
Dinasyddiaeth | yr Almaen Natsïaidd |
Addysg | doethuriaeth |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, dyddiadurwr, hunangofiannydd, newyddiadurwr, nofelydd, propagandydd, sgriptiwr, Demagog, ysgrifennwr |
Swydd | aelod o Reichstag Gweriniaeth Weimar, member of the Reichstag of Nazi Germany, Reich Chancellor, Gauleiter, Reich Minister for Public Enlightenment and Propaganda |
Taldra | 1.65 metr |
Pwysau | 63 cilogram |
Plaid Wleidyddol | Plaid y Gweithwyr Sosialaidd Cenedlaethol |
Priod | Magda Goebbels |
Partner | Lída Baarová |
Plant | Helga Susanne Goebbels, Hildegard Traudel Goebbels, Helmut Christian Goebbels, Holdine Kathrin Goebbels, Heidrun Elisabeth Goebbels, Hedwig Johanna Goebbels |
llofnod | |
Ganed Goebbels yn Rheydt, i'r de o ddinas Mönchengladbach. Enillodd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Heidelberg yn 1921, am draethawd ar ddrama ramantus y 16g. Bu'n gweithio fel newyddiadurwr, fel clerc banc ac yn y gyfnewidfa stoc. Daeth i gysylltiad â'r Blaid Natsïaidd yn 1923, pan feddiannwyd Ardal y Ruhr gan Ffrainc, a daeth yn aelod y flwyddyn wedyn. Erbyn 1928, roedd yn un o aelodau amlycaf y blaid ac yn edmygydd mawr o Adolf Hitler.
Wedi i'r Natsïaid ennill grym yn 1933, daeth yn Weinidog dros Bropaganda. Ystyrir fod ganddo ran allweddol yn nigwyddiadau Kristallnacht yn 1938, yr ymosodiadau cyntaf ar yr Iddewon. Parhaodd yn y swydd yma yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac ar ddiwedd y rhyfel, lladdodd ef a'i wraig Magda eu hunain, wedi gwenwyno eu chwe plentyn yn gyntaf.