Ardal y Ruhr
Cytref fwyaf yr Almaen yw Ardal y Ruhr (Almaeneg: Ruhrgebiet), gyda phoblogaeth o tua 5.3 miliwn o bobl ac arwynebedd o tua 4,425 km2. Fe'i henwir ar ôl Afon Ruhr, un o lednentydd Afon Rhein, sy'n llifo trwyddi. Mae'n cynnwys cyfres o ddinasoedd sydd wedi ymdoddi i mewn i'w gilydd. Cafodd yr ardal ei llunio yn ystod y Chwyldro Diwydiannol yn y 19eg ganrif. Dyw'r Ruhr ddim yn cyfateb i unrhyw uned gweinyddol penodol, felly dyw ffiniau'r ardal ddim wedi'u diffinio'n swyddogol. Y prif ddinasoedd yw Bochum, Dortmund, Duisburg, Essen, Gelsenkirchen, Mülheim an der Ruhr ac Oberhausen. Mae'r holl ardal yn cael ei gweinyddu fel rhan o dalaith Nordrhein-Westfalen.
Prif ddinasoedd a threfiGolygu
- Bochum
- Bottrop
- Castrop-Rauxel
- Dortmund
- Duisburg
- Essen
- Gelsenkirchen
- Hagen
- Hamm
- Hattingen
- Herten
- Mülheim an der Ruhr
- Oberhausen
- Recklinghausen
- Unna
- Wesel
- Wetter
- Witten
- Xanten