Judith Godwin (Ymneilltuwr)
Ymneilltuwr a lled-Fethodist cynnar oedd Judith Godwin (bu farw yn Watford, Swydd Hertford yn 1746) a disgrifir hi fel 'un o ohebwyr Howel Harris'[1]
Judith Godwin | |
---|---|
Ganwyd | Cymru |
Bu farw | 25 Ionawr 1746 Watford |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gohebydd |
Priod | Samuel Jones |
Ni wyddom enw ei rhieni. Ei henw morwynol oedd Weaver. Dywed rhai, yn anghywir, ei bod hi'n ferch i John Weaver (a fu farw 1712), gweinidog ym Maesyfed ac yna yn Henffordd. Mae'n bosib ei bod yn perthyn o bell i John Weaver, fodd bynnag gan gael ei geni yn Sir Faesyfed a'r ddau o'r un enw.
Teulu
golyguPriododd ddwywaith: yn gyntaf, â Samuel Jones (1680? - 1719) o Tewkesbury, ac yn ail (1721) gydag Edward Godwin (1680? - 1764), gweinidog Annibynnol blaenllaw yn Llundain. O'r ail briodas, cafodd ddau fab: Edward (1722 - 1748/9), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Whitefield, a John (1723 - 1772), gweinidog Annibynnol yn nwyrain Lloegr, a ddaeth yn dad i'r llenor William Godwin ac felly'n daid i Mary Godwin, priod y bardd Shelley.
Crefydd
golyguRoedd yn lled-Fethodist, ac yn gyfaill i Vavasor Griffiths a Lewis Rees ac roedd hefyd yn gyfaill agos i Howel Harris a'i holl deulu. Gohebodd lawer â Harris — y mae gennym bron ddeugain o lythyrau rhyngddynt. ‘Pietistaidd’ oedd naws Judith Godwin, a chanddi ragfarnau cryfion yn erbyn Johna Charles Wesley.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jenkins, R. T., (1953). GODWIN, JUDITH (bu farw 1746), un o ohebwyr Howel Harris. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 13 Medi 2019, o https://bywgraffiadur.cymru/article/c-GODW-JUD-1746