Charles Wesley
ysgrifennwr, diwinydd, clerig, athronydd, emynydd (1707-1788)
Clerigwr, efengylydd ac emynydd o Loegr oedd Charles Wesley (18 Rhagfyr 1707 - 29 Mawrth 1788). Roedd yn un o arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yn Lloegr.
Charles Wesley | |
---|---|
Ganwyd | 18 Rhagfyr 1707 Epworth |
Bu farw | 29 Mawrth 1788 Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | diwinydd, athronydd, llenor, emynydd, clerig |
Tad | Samuel Wesley |
Mam | Susanna Wesley |
Priod | Sarah Wesley |
Plant | Charles Wesley Junior, Samuel Wesley, Sarah Wesley |
Gwobr/au | Oriel Anfarwolion Cerddoriaeth yr Efengyl |
Ganed ef yn Epworth yn Swydd Lincoln yn fab i Samuel Wesley a'i wraig Susanna Annesley. Roedd yn frawd iau i'r efengylydd John Wesley. Fel ei dad a'i frawd, urddwyd ef yn offeiriad yn Eglwys Loegr. Priododd Sarah Gwynne, merch Marmaduke Gwynne, oedd wedi ei droi at Fethodistiaeth gan Howell Harris.
Cyfansoddodd tua phum mil a hanner o emynau i gyd. Ymhlith y mwyaf adnabyddus mae Hark, The Herald Angels Sing, Jesus, Lover of My Soul a Love Divine, All Loves Excelling. Cyfieithiwyd cryn nifer o'i emynau i'r Gymraeg.