Agor y brif ddewislen

Maesyfed (pentref)

pentref yng Nghymru

Pentref a chymuned ym Mhowys yw Maesyfed (Saesneg: New Radnor) Cyfeirnod OS: SO2160. Saif yn agos i'r ffîn a Lloegr, ger cyffordd yr A44 a'r B4372, i'r dwyrain o dref Llandrindod.

Maesyfed
Monument, New Radnor (geograph 2499761).jpg
Math pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir New Radnor Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.24°N 3.16°W Edit this on Wikidata
Cod OS SO212609 Edit this on Wikidata
Cod post LD8 Edit this on Wikidata

Ar un adeg, y pentref oedd canolfan arglwyddiaeth Maesyfed, a chynlluniwyd y dref fel bwrdeisdref. Daeth Gerallt Gymro yma gyda'r Archesgob Baldwin yn 1188. Wedi ffurfio Sir Faesyfed, Maesyfed oedd y brif dref hyd y 17g, pan ddaeth Llanandras yn brif dref yn ei lle.

Mae'r enw i'w ganfod mewn ysgrifen mor gynnar a 991 ar ffurf 'maes hefed'. Ystyr 'maes' ydy 'cae' neu dir agored ac enw person yw 'Hyfaidd'. Arferid galw'r dyffryn lle saif Maesyfed yn Fro Hyfeid.

New Radnor from the hill - geograph.org.uk - 91530.jpg

Ceir castell yma, a adeiladwyd gan William Fitz Osbern Iarll Henffordd tan iddo farw yn 1071 ac yna Philip de Breos tua 1086. Newidiodd ddwylo sawl gwaith cyn i Owain Glyndŵr ei ddinistrio. Yn 1196 bu byddin Rhys ap Gruffudd (neu'r Arglwydd Rhys) yn fuddugol ym Mrwydr Maesyfed ar lawr y dyffryn pan laddwyd deugain o farchogion Roger Mortimer o Wigmore a Hugh de Say.

Mae'r gymuned yn cynnwys rhan sylweddol o Fforest Clud, gan gynnwys y pwynt uchaf, Rhos Fawr (660 medr). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 410.

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Maesyfed (pentref) (pob oed) (409)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Maesyfed (pentref)) (26)
  
6.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Maesyfed (pentref)) (121)
  
29.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Maesyfed (pentref)) (80)
  
42.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nifer sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013