Nofelydd o dras Japaneaidd, a anwyd yn Unol Daleithiau America yw Julie Otsuka (ganwyd 15 Mai 1962).

Julie Otsuka
Ganwyd15 Mai 1962 Edit this on Wikidata
Palo Alto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, llenor Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWhen the Emperor was Divine, The Swimmers Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Merched Dramor, Asian American Literary Awards Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.julieotsuka.com Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Palo Alto, California ar 15 Mai 1962. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia a Phrifysgol Yale.[1][2][3]

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: When the Emperor was Divine.

Mae Otsuka yn adnabyddus am ei nofelau ffuglen hanesyddol sy'n delio ag Americanwyr Japaneaidd. Rhoddodd ei llyfrau gryn sylw i sefyllfa Americanwyr Japaneaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nid oedd yn byw trwy gyfnod Interniaeth Japan, pan roddwyd rhwng 110,000 a 120,000 o Japaneaid y anwyd neu a oedd yn ail neu drydydd cenhedlaeth Japaneaidd mewn gwersylloedd crynhoi yng ngorllewin yr UDA. Fodd bynnag, roedd wedi clywed llawer am brofiadau ei rhieni yn y gwersylloedd hyn, gan roi persbectif unigryw a phersonol i Otsuka ar y mater. Yn ei nofel When the Emperor was Divine mae'n trafod y gwersylloedd hyn. Gyda chefndir fel peintiwr, mae sylw Julie Otsuka i fanylder yn rhoi delweddau byw o wahanol sefyllfaoedd drwy gydol ei nofelau i'r darllenydd. Mae hi wedi derbyn Gwobr yr Albatros Literaturpreis.[4]

Magwraeth

golygu

Ganwyd Otsuka ym 1962, yn Palo Alto, California. Gweithiodd ei thad fel peiriannydd yn y diwydiant awyrofod, tra gweithioff ei mam fel technegydd labordy, cyn iddi roi genedigaeth i Otsuka. Roedd y ddau o'i rhieni o dras Jaapaneaidd, gyda'i thad yn issei ac roedd ei mam yn nisei.[5] Pan oedd yn naw oed, symudodd ei theulu i Palos Verdes, California. Mae ganddi ddau frawd, ac mae un ohonynt, Michael Otsuka, ar hyn o bryd yn dysgu yn Ysgol Economeg Llundain (LSE).[6]

Anrhydeddau

golygu
  • 2004 Guggenheim Fellowship[7]
  • 2003 Asian American Literary Award, When the Emperor Was Divine[8]
  • 2003 Alex Award, When the Emperor Was Divine[9]
  • 2011 National Book Award, The Buddha in the Attic
  • 2011 Los Angeles Times Book Prize, The Buddha in the Attic
  • 2011 Langum Prize for American Historical Fiction, The Buddha in the Attic[10]
  • 2011 New York Times a'r San Francisco Chronicle, bestseller, The Buddha in the Attic
  • 2012 PEN/Faulkner Award for Fiction, The Buddha in the Attic[11]
  • 2012 American Academy of Arts and Letters "Arts and Letters Award in Literature"[12]
  • 2012 Prix Femina Étranger, The Buddha in the Attic[13]
  • 2014 Albatros Literaturpreis am Wovon wir träumten (The Buddha in the Attic) cyd-enillydd gyda'r cyfieithydd Almaeneg Katja Scholtz.[14]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Gorffennaf 2024.
  3. Dyddiad geni: "Julie Otsuka".
  4. Amato. "Julie Otsuka". Julie Otsuka. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-08-14. Cyrchwyd 20 Ebrill 2015.
  5. Oh, Seiwoong (2010). Encyclopedia of Asian-American Literature. Infobase Publishing. t. 232. ISBN 978-1-4381-2088-1.
  6. Ciabattari, Jane (September 16, 2011). "Novelist Julie Otsuka talks about her new novel which follows the lives of Japanese picture brides coming to America in the 1920s—and her own families' struggles here". The Daily Beast. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2012.
  7. Julie Otsuka - John Simon Guggenheim Memorial Foundation, "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-04. Cyrchwyd 2012-12-30. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link)
  8. "'When the Emperor was Divine'... and When Japanese Americans Were Rounded Up". Asia Society. Cyrchwyd June 16, 2012.
  9. Alex Awards 2003
  10. "Past Winners of the David J. Langum Sr. Prizes". The Langum Charitable Trust. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2012. Cyrchwyd 16 Mehefin 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  11. "Past Winners & Finalists". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-21. Cyrchwyd 2019-07-02.
  12. ""2012 American Academy of Arts and Letters Award"". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-17. Cyrchwyd 2019-07-02.
  13. "US writer Julie Otsuka wins Femina foreign novel prize". France24. 6 Tachwedd, 2012. Cyrchwyd 6 Tachwedd 2012. Check date values in: |date= (help)
  14. "Albatros-Literaturpreis an Julie Otsuka und Katja Scholtz". Focus. 15 Rhagfyr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-07-02. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2013.