Diwydiant awyrofod
Diwydiant sy'n ymwneud â theithio trwy atmosffer y Ddaear a'r gofod yw'r diwydiant awyrofod. Mae cwmnïau awyrofod yn ymchwilio ym maes hedfan a phynciau megis afioneg a jet-yriant er mwyn datblygu cerbydau a'r systemau i'w profi, eu gweithredu a'u cynnal. Maent hefyd yn gweithgynhyrchu'r cerbydau hyn, gan gynnwys gleidrau, balwnau ysgafnach nag aer, awyrennau, rocedi a thaflegrau, cerbydau lansio, a llongau gofod.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) aerospace industry. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Chwefror 2014.