Ystafell neu adeilad er ymchwil gwyddonol neu gynhyrchu cemegion ydy labordy.[1] Gweithdy ydyw i gynnal arbrofion rheoledig neu i gymeryd mesuriadau gwyddonol mewn amgylchedd dan reolaeth. Ceir labordai mewn ysgolion, colegau, diwydiant a chyrff cyhoeddus a milwrol a hyd yn oed ar longau a rocedi. Gall y nifer sy'n gweithio mewn labordy amrywio o un person i uwch na 30. Wethiau defnyddir y gair yn llac am lefydd ymchwil tebyg, er enghraifft labordy ffilm neu labordy iaith.

Labrdy biocemeg modern ym Mhrifysgol Cwlen.
Labordy cemeg o'r 18g.

Mae'r labordy cemegol yn cynnwys nifer o ddarnau offer arbennig, gan gynnwys amryw wydrau (tiwbiau profi, fflasgiau, biceri), cloriannau, a llosgydd Bunsen. Byddai'r rhai sydd yn y labordy yn gwisgo côt neu ffedog ac yn rhagofalu, er enghraifft drwy wisgo menig a sbectol diogelwch.

Cyflenwir labordai modern gyda dyfeisiau technolegol a chyfrifiadurol, megis sbectoffotomedrau, microsgopau polareiddiol,a microsgopau electronau.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  labordy. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 13 Ebrill 2018.
Chwiliwch am labordy
yn Wiciadur.