Julio Herrera y Reissig
Bardd ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd Julio Herrera y Reissig (9 Ionawr 1875 – 18 Mawrth 1910). Roedd yn un o lenorion y mudiad modernismo ac yn aelod o Generación del 900.
Julio Herrera y Reissig | |
---|---|
Ganwyd | 9 Ionawr 1875 Montevideo |
Bu farw | 9 Mawrth 1910, 18 Mawrth 1910 Montevideo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | ysgrifennwr |
Arddull | barddoniaeth, traethawd |
Ganwyd ym Montevideo i deulu cefnog. Ei ewythr oedd Julio Herrera y Obes, Arlywydd Wrwgwái o 1890 i 1894. Bu'n dioddef o galon sâl drwy gydol ei oes, a bu'n rhaid iddo ymddeol o'i swyddi fel clerc y Swyddfa Dollau ac arolygydd cynorthwyol yr ysgolion cynradd oherwydd ei afiechyd.[1] Ymunodd â bywyd bohemaidd Montevideo, tra'n dibynnu ar ei deulu am arian, ac arloesodd technegau newydd a themâu rhyfedd ym marddoniaeth Sbaeneg. Cyhoeddodd y cylchgrawn llenyddol La Revista (1899–1900).[2]
Cafodd drawiad ar ei galon yn 1900. Ysgrifennodd sawl cyfrol o farddoniaeth a rhyddiaith, nifer ohonynt a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth: Los maitines de la noche (1902), Epílogo wagneriano a la "política de fusión" (1902), Poemas violetas (1906), La vida (1906), Los peregrinos de piedra (1909), Pianos crepusculares (1910), Las pascuas del tiempo (1913), Prosas: Críticas, cuentos, comentarios (1918), Ópalos: Poemas en prosa (1919), Los parques abandonados (1919), a Las lunas de oro (1924).[1]
Bu farw ym Montevideo yn 35 oed.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Georgette Magassy Dorn, "Herrera Y Reissig, Julio (1875–1910)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) Julio Herrera y Reissig. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Ebrill 2019.
Darllen pellach
golygu- Mario Alvarez, Ensueño y delirio: Vida y obra de Julio Herrera y Reissig (Montevideo: Academia Nacional de Letras, 1995).
- Antonio Seluja, Julio Herrera y Reissig: vida y obra (1984).