Justin Welby
Esgob o Sais yw Justin Portal Welby (ganwyd 6 Ionawr 1956)[1] Roedd yn 105ed Archesgob Caergaint rhwng 2013 a 2024. Roedd Welby yn ficer yn Southam, Swydd Warwick,[2] ac yn fwy diweddar roedd yn Esgob Durham, gan fod yn y swydd ychydig dros flwyddyn.[3]
Justin Welby | |
---|---|
Llais | Justin Welby -Today - 26 July 2013.flac |
Ganwyd | 6 Ionawr 1956 Llundain |
Man preswyl | Lambeth Palace |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, offeiriad Anglicanaidd, person busnes, masnachwr, diwinydd, gweinidog yr Efengyl, archesgob |
Swydd | Archesgob Caergaint, dean of Liverpool, Esgob Dyrham, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Anthony Montague Browne, Gavin Bramhall Welby |
Mam | Jane Gillian Portal |
Priod | Caroline Eaton |
Plant | Johanna Welby, Timothy Welby, Katharine Welby, Peter Welby, Eleanor Welby, Hannah Welby |
Gwobr/au | honorary doctor of the Catholic University of Paris, Marchog Croes Fawr Urdd Frenhinol Victoria |
llofnod | |
Ymddiswyddodd ar 12 Tachwedd 2024 yn dilyn adroddiad annibynnol am sut ddeliodd a achos y bargyfreithiwr John Smyth. Roedd Smyth wedi ei gyhuddo o gam-drin cannoedd o fechgyn ifanc dros gyfnod o ddegawdau, pan oedd yn gweithio mewn gwersylloedd haf Cristnogol yn yr 1980au a'r 1990au gyda elusen Gristnogol Iwerne Trust. Bu farw Smyth yn 2018 ond daeth yr adroddiad i'r casgliad y gallai fod wedi wynebu cyfiawnder pe bai Justin Welby wedi rhoi gwybod i'r heddlu yn swyddogol yn 2013.[4]
Cyhoeddodd Welby ei ymddiswyddiad ar 12 Tachwedd 2024. Roedd wedi derbyn beirniadaeth am ei fethiant i ddelio â'r chamdriniwr plant hysbys.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ,. Who's Who. 2015 (arg. online Oxford University Press). A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc.
- ↑ "Justin Welby becomes Archbishop of Canterbury". BBC News. 4 Chwefror 2013. Cyrchwyd 1 Ebrill 2013.
- ↑ "Diocese of Durham – New Bishop-Designate of Durham Announced". Durham Anglican. Cyrchwyd 1 Hydref 2012.
- ↑ "Archesgob Caergaint yn ymddiswyddo". newyddion.s4c.cymru. 2024-11-12. Cyrchwyd 2024-11-12.
- ↑ Rhys Owen (12 Tachwedd 2024). "Ymddiswyddiad Justin Welby: Angen i'r Eglwys "ailymdrechu" i ddiogelu pobol". Golwg360. Cyrchwyd 12 Tachwedd 2024.