Juventus F.C.

(Ailgyfeiriad o Juventus FC)

Clwb pêl-droed o ddinas Torino yw Juventus Football Club S.p.A.. Mae'r clwb yn chwarae yn Serie A, prif adran pêl-droed Yr Eidal. Daw'r enw Juventus o'r Lladin iuventus (Cymraeg ieuenctid).

Juventus F.C.
Enw llawn Juventus Football Club
Llysenw(au) La Vecchia Signora ("Yr Hen Wraig")
La Fidanzata d'Italia ("Cariad yr Eidal")
I bianconeri
Le Zebre ("Y Sebraod")
La Signora Omicidi
Sefydlwyd 1 Tachwedd, 1897
(fel Sport Club Juventus)
Maes Juventus Stadium, Torino
Cadeirydd Baner Yr Eidal Andrea Agnelli
Rheolwr Baner Yr Eidal Massimiliano Allegri
Cynghrair Serie A
2015-2016 1af

Sefydlwyd clwb Sport Club Juventus ar 1 Tachwedd 1897 gan nifer o ddisgyblion Ysgol Ramadeg Massimo D'Azeglio Lyceum yn Torino, yn eu mysg, llywydd cyntaf y clwb, Eugenio Canfari.[1] ac, heb law am dymor 2006-07, mae'r clwb wedi treulio pob tymor yn Serie A ers ei sefydlu ym 1929.

Juventus yw'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes pêl-droed yn Yr Eidal ar ôl ennill 31 pencampwriaeth Serie A, 10 Coppa Italia, chwe Supercoppa Italiana, dau Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA, un Cwpan Enillwyr Cwpanau Ewrop, tri Cynghrair Europa UEFA/Cwpan UEFA, un Tlws Intertoto, dau Super Cup UEFA a dau Cwpan Rhyng-gyfandirol[2]

Anrhydeddau

golygu

Domestig

golygu
  • Serie A
    • Enillwyr (31): 1905, 1925–26, 1930–31, 1931–32, 1932–33, 1933–34, 1934–35, 1949–50, 1951–52, 1957–58, 1959–60, 1960–61, 1966–67, 1971–72, 1972–73, 1974–75, 1976–77, 1977–78, 1980–81, 1981–82, 1983–84, 1985–86, 1994–95, 1996–97, 1997–98, 2001–02, 2002–03, 2011–12, 2012–13, 2013–14, 2014–15
    • Serie B
    • Enillwyr (1): 2006–07
  • Coppa Italia
    • Enillwyr (10): 1937–38, 1941–42, 1958–59, 1959–60, 1964–65, 1978–79, 1982–83, 1989–90, 1994–95, 2014–15
  • Supercoppa Italiana
    • Enillwyr (6): 1995, 1997, 2002, 2003, 2012, 2013

Rhyngwladol

golygu

Cysylltiadau Cymreig

golygu

Chwaraewr

golygu
Enw O I Anrhydeddau
  John Charles Awst 1957 Awst 1962 Serie A 1957-58, 1959-60, 1960-61, Coppa Italia 1958-59, 1959-60
  Ian Rush 2 Gorffennaf, 1986[A] 18 Awst 1988

Nodiadau

golygu

A. ^ Er i Rush arwyddo gydag Juventus ym 1986, treuliodd dymor 1986-87 ar fenthyg gyda Lerpwl cyn symud i Juventus ar gyfer tymor 1987-88

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Juventus Football Club: The History". Juventus Football Club S.p.A. official website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-07-29. Cyrchwyd 2015-05-31.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  2. "Confermato: I più titolati al mondo!". A.C. Milan S.p.A. official website.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato