Cynghrair y Pencampwyr UEFA

Cystadleuaeth bêl-droed blynddol ar gyfer prif glybiau Ewrop yw Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Fe'i drefnir gan Undeb y Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeiadd (UEFA).

Cyflwynwyd Cynghrair y Pencampwyr UEFA ym 1992 fel olynydd i Gwpan Pencampwyr Ewrop neu Cwpan Ewrop oedd wedi bodoli ers 1955[1]. Cyn 1992 dim ond pencampwr pob gwlad oedd yn cystadlu ond cafodd y gystadleuaeth ei hymestyn ym 1992. Ychwanegwyd rownd o grwpiau i'r gystadleuaeth a chafodd y gwledydd cryfaf yrru hyd at bedwar clwb i'r gystadleuaeth.

Yn ei ffurf bresennol, mae Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cychwyn yng nghanol mis Gorffennaf gyda tair rownd o gemau dros ddau gymal a gêm ail gyfle dros ddau gymal. Mae'r 10 tîm sydd weddill yn dilyn y rowndiau rhagbrofol yn ymuno â'r 22 o glybiau sydd yn ymuno'n syth yn rownd y grwpiau. Mae'r 32 tîm yn cael eu gosod mewn wyth grŵp o bedwar ac yn chwarae yn erbyn eu gilydd gartref ac oddi cartref gydag wyth enillydd y grŵp a'r wyth tîm orffennodd yn yr ail safle yn camu ymlaen i'r rowndiau olaf.[2].

Mae enillwyr Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn sicrhau eu lle yn Super Cup UEFA a Chwpan Clwb y Byd FIFA[3][4].

Real Madrid ydi'r clwb mwyaf llwyddiannus yn hanes y gystadleuaeth ar ôl ennill y tlws ar 10 achlysur, gan gynnwys y pum tlws cyntaf. Sbaen ydi'r wlad â'r nifer fwyaf o bencampwyr (15) tra bod gan Lloegr a'r Eidal 12 buddugoliaeth yr un. Mae 22 o glybiau gwahanol wedi torri eu henwau ar y tlws, gyda 12 ohonynyt wedi codi'r tlws ar fwy nag un achlysur[5]. Ers newid ffurf ac enw'r gystadleuaeth ym 1992, nid oes yr un clwb wedi llwyddo i amddiffyn eu coron; A.C. Milan oedd y clwb diwethaf i amddiffyn eu coron yn ystod tymor 1989-90[6].

Hanes golygu

Cystadlaethau Cynnar golygu

Yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf a diddymiad yr Ymerodraeth Awstro-Hwngariaidd, sefydlodd Awstria, Hwngari a Tsiecoslofacia gynghrieiriau pêl-droed proffesiynol; y gwledydd cyntaf ar gyfandir Ewrop i wneud hyn, ac er mwyn sicrhau arian i'r clybiau proffesiynol newydd cafwyd cyfarfod yn Fenis, Yr Eidal ym 1927 er mwyn sefydlu Cwpan Mitropa[7]. Am y ddau dymor cyntaf cafwyd dau glwb o Awstria, Hwngari, Iwgoslafia a Tsiecoslofacia gyda chlybiau o'r Eidal yn cymryd lle clybiau Iwgoslafia o 1929 ymlaen.

Ceisiodd clwb Servette o'r Swistir i sefydlu tlws ar gyfer pencampwyr gwledydd Ewrop ym 1930 gyda 10 o glybiau yn cystadlu yn y Coupe des Nations gyda Újpest o Hwngari yn codi'r tlws. Er ei lwyddiant, ni chafwyd ail gystadleuaeth oherwydd problemau ariannol.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, cafywd cystadleuaeth newydd ar gyfer timau Ffrainc, Yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal o'r enw'r Cwpan Lladin (Saesneg: Latin Cup; Ffrangeg: Coupe Latine; Eidaleg: Coppa Latina; Portiwgaleg: Taça Latina; Sbaeneg: Copa Latina) ond yn dilyn sefydlu Cwpan Pencampwyr Ewrop daeth y Cwpan Lladin i ben ym 1957.[8]

Sefydlu Cwpan Ewrop golygu

Ar ôl cael adroddiadau ffafriol o'r Campeonato Sudamericano de Campeones ym 1948, dechreuodd Gabriel Hanot, golygydd papur newydd L'Équipe, withio i ffurfio cystadleuaeth tebyg ar gyfer cyfandir Ewrop[9]. Wedi i Stan Cullis, rheolwr Wolverhampton Wanderers, gyhoeddi mai Wolves oedd "Pencampwyr y Byd" yn dilyn cyfres o fuddugoliaethau mewn gemau cyfeillgar yn y 1950au llwyddodd Hanot i ddwyn perswâd ar UEFA i sefydlu'r gystadleuaeth[1] a daeth Cwpan Pencampwyr Clybiau Ewrop i fodolaeth yn dilyn cyfarfod ym Mharis ym 1955[1].

Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA golygu

Cynhelir twrnament Cynghrair y Pencampwyr Merched UEFA hefyd ar hyd strwythur debyg i'r gystadleuaeth i ddynion.

Anthem golygu

Ysgrifennwyd anthem Cynghrair y Pencampwyr UEFA gan Tony Britten ac mae'n addasiad o Zadok the Priest gan Georg Friedrich Händel[10][11]. Perfformiwyd y darn gan y Gerddorfa Ffilarmonig Brenhinol gyda lleisiau Academi St. Martin in the Fields[10]. Mae'r corws yn defnyddio tair iaith swyddogol UEFA: Saesneg, Almaeneg a Ffrangeg. Chwaraeir yr anthem cyn pob un gêm yng Nghynghrair y Pencampwyr UEFA.

Perfformiadau golygu

Mae 22 o glybiau gwahanol wedi ennill y gystadleuaeth ers ei sefydlu ym 1955 gyda Real Madrid â'r record am y nifer fwyaf o fuddugoliaethau ar ôl codi'r tlws ar 10 achlysur. Dim ond dau glwb arall sydd wedi cyrraedd 10 rownd derfynol; A.C. Milan a F.C. Bayern München. Mae 12 clwb wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur; Real Madrid, AC Milan, Bayern München, Lerpwl, Ajax, Barcelona, Internazionale, Manchester United, Benfica, Nottingham Forest, Juventus a Porto. Mae 17 o glybiau gwahanol wedi cyrraedd y rownd derfynol heb godi'r tlws[5].

Mae clybiau o 10 gwahanol gwlad wedi ennill y gystadleuaeth gyda chlybiau Sbaen y mwyaf llwyddiannus wrth ennill 15 tlws. Mae Lloegr a'r Eidal yn gyfartal gyda 12 buddugoliaeth tra bo clybiau'r Almaen wedi codi saith tlws, Yr Iseldiroedd chwech a Phortiwgal pedwar. Mae'r Alban, Rwmania, Iwgoslafia a Ffrainc wedi sicrhau un tlws yr un.

Yn ôl gwlad golygu

Perfformiad yn ôl gwlad
Gwlad Enillwyr Ail
  Sbaen 15 10
  Yr Eidal 12 15
  Lloegr 12 7
  Yr Almaen 7 10
  Yr Iseldiroedd 6 2
  Portiwgal 4 5
  Ffrainc 1 5
  Yr Alban 1 1
  Romania 1 1
  Iwgoslafia 1 1
  Gwlad Groeg 0 1
  Gwlad Belg 0 1
  Sweden 0 1

Ers dechrau'r gystadleuaeth mae pump rownd derfynol wedi gweld dau glwb o'r un wlad: Sbaen yn 2000 a 2014, Yr Eidal yn 2003, Lloegr yn 2008 a'r Almaen yn 2013.[12]

Rowndiau terfynol golygu

Allwedd
Cafodd y gêm ei hennill wedi Amser ychwanegol
* Cafodd y gêm ei hennill ar Giciau o'r smotyn
Cafodd y gêm ei hennill wedi gêm ail-chwarae
Rhestr rowndioau terfynol Cwpan Ewrop a Chynghrair Pencampwyr UEFA
Tymor Gwlad Enillwyr Sgôr Ail Gwlad Lleoliad Torf[13]
1955–56   Sbaen Real Madrid 4–3 Stade de Reims   Ffrainc   Parc des Princes, Paris 38,239
1956–57   Sbaen Real Madrid 2–0 Fiorentina   Yr Eidal   Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 124,000
1957–58   Sbaen Real Madrid 3–2 Milan   Yr Eidal   Heysel Stadium, Brussels 67,000
1958–59   Sbaen Real Madrid 2–0 Stade de Reims   Ffrainc   Neckarstadion, Stuttgart 72,000
1959–60   Sbaen Real Madrid 7–3 Eintracht Frankfurt   Gorllewin yr Almaen   Parc Hampden, Glasgow 127,621
1960–61   Portiwgal Benfica 3–2 Barcelona   Sbaen   Wankdorf Stadium, Bern 26,732
1961–62   Portiwgal Benfica 5–3 Real Madrid   Sbaen   Olympisch Stadion, Amsterdam 61,257
1962–63   Yr Eidal Milan 2–1 Benfica   Portiwgal   Wembley Stadium, Llundain 45,715
1963–64   Yr Eidal Internazionale 3–1 Real Madrid   Sbaen   Prater Stadium, Vienna 71,333
1964–65   Yr Eidal Internazionale 1–0 Benfica   Portiwgal   San Siro, Milan 89,000
1965–66   Sbaen Real Madrid 2–1 Partizan   Iwgoslafia   Heysel Stadium, Brussels 46,745
1966–67   Yr Alban Celtic 2–1 Internazionale   Yr Eidal   Estádio Nacional, Lisbon 45,000
1967–68   Lloegr Manchester United 4–1 Benfica   Portiwgal   Wembley Stadium, Llundain 92,225
1968–69   Yr Eidal Milan 4–1 Ajax   Yr Iseldiroedd   Sbaen Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 31,782
1969–70   Yr Iseldiroedd Feyenoord 2-1 Celtic   Yr Alban   San Siro, Milan 53,187
1970-71   Yr Iseldiroedd Ajax 2-0 Panathinaikos   Gwlad Groeg   Wembley Stadium, Llundain 83,179
1971-72   Yr Iseldiroedd Ajax 2-0 Internazionale   Yr Eidal   De Kuip, Rotterdam 61,354
1972–73   Yr Iseldiroedd Ajax 1-0 Juventus   Yr Eidal   Red Star Stadium, Belgrade 89,484
1973–74   Gorllewin yr Almaen Bayern München 4–0[A] Atlético Madrid   Sbaen   Heysel Stadium, Brussels 72,047
1974–75   Gorllewin yr Almaen Bayern München 2–0 Leeds United   Lloegr   Parc des Princes, Paris 48,374
1975–76   Gorllewin yr Almaen Bayern München 1–0 Saint-Étienne   Ffrainc   Parc Hampden, Glasgow 54,864
1976–77   Lloegr Lerpwl 3-1 Borussia Mönchengladbach   Gorllewin yr Almaen   Stadio Olimpico, Rhufain 52,078
1977–78   Lloegr Lerpwl 1-0 Club Brugge   Gwlad Belg   Wembley Stadium, Llundain 92,500
1978-79   Lloegr Nottingham Forest 1-0 Malmö FF   Sweden   Olympiastadion, München 57,500
1979–80   Lloegr Nottingham Forest 1-0 Hamburg   Gorllewin yr Almaen   Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 51,000
1980–81   Lloegr Lerpwl 1–0 Real Madrid   Sbaen   Parc des Princes, Paris 48,360
1981–82   Lloegr Aston Villa 1-0 Bayern München   Gorllewin yr Almaen   De Kuip, Rotterdam 46,000
1982–83   Gorllewin yr Almaen Hamburg 1–0 Juventus   Yr Eidal   Stadiwm Olympaidd, Athen 73,500
1983-84   Lloegr Lerpwl 1-1*[B] Roma   Yr Eidal   Stadio Olimpico, Rhufain 69,693
1984–85   Yr Eidal Juventus 1-0 Lerpwl   Lloegr   Heysel Stadium, Brussels 58,000
1985–86   Rwmania Steaua București 0–0*[C] Barcelona   Sbaen   Estadio Ramón Sánchez Pizjuán, Seville 70,000
1986–87   Portiwgal Porto 2-1 Bayern München   Gorllewin yr Almaen   Prater Stadium, Vienna 57,500
1987–88   Yr Iseldiroedd PSV Eindhoven 0–0*[Ch] Benfica   Portiwgal   Neckarstadion, Stuttgart 68,000
1988–89   Yr Eidal Milan 4–0 Steaua București   Rwmania   Camp Nou, Barcelona 97,000
1989–90   Yr Eidal Milan 1-0 Benfica   Portiwgal   Prater Stadium, Vienna 57,558
1990–91   Iwgoslafia Red Star Belgrade 0–0*[D] Marseille   Ffrainc   Stadio San Nicola, Bari 56,000
1991–92   Sbaen Barcelona 1–0 Sampdoria   Yr Eidal   Wembley Stadium, Llundain 70,827
1992-93   Ffrainc Marseille 1-0 Milan   Yr Eidal   Olympiastadion, München 64,400
1993–94   Yr Eidal Milan 4–0 Barcelona   Sbaen   Stadiwm Olympaidd, Athen 70,000
1994-95   Yr Iseldiroedd Ajax 1-0 Milan   Yr Eidal   Ernst-Happel-Stadion, Vienna 49,730
1995–96   Yr Eidal Juventus 1-1*[Dd] Ajax   Yr Iseldiroedd   Stadio Olimpico, Rhufain 70,000
1996-97   Yr Almaen Borussia Dortmund 3-1 Juventus   Yr Eidal   Olympiastadion, München 59,000
1997–98   Sbaen Real Madrid 1-0 Juventus   Yr Eidal   Amsterdam Arena, Amsterdam 48,500
1998–99   Lloegr Manchester United 2-1 Bayern München   Yr Almaen   Camp Nou, Barcelona 90,245
1999–2000   Sbaen Real Madrid 3-0 Valencia   Sbaen   Stade de France, Saint-Denis 80,000
2000–01   Yr Almaen Bayern München 1–1*[E] Valencia   Sbaen  San Siro, Milan 71,500
2001–02   Sbaen Real Madrid 2-1 Bayer Leverkusen   Yr Almaen   Parc Hampden, Glasgow 50,499
2002–03   Yr Eidal Milan 0-0*[F] Juventus   Yr Eidal   Old Trafford, Manceinion 62,315
2003–04   Portiwgal Porto 3-0 AS Monaco   Ffrainc   Arena AufSchalke, Gelsenkirchen 53,053
2004–05   Lloegr Lerpwl 3-3*[Ff] Milan   Yr Eidal   Atatürk Olympic Stadium, Istanbul 69,000
2005–06   Sbaen Barcelona 2-1 Arsenal   Lloegr   Stade de France, Saint-Denis 79,610
2006–07   Yr Eidal Milan 2–1 Lerpwl   Lloegr   Stadiwm Olympaidd, Athen 63,000
2007–08   Lloegr Manchester United 1–1*[G] Chelsea   Lloegr   Luzhniki Stadium, Moscow 67,310
2008–09   Sbaen Barcelona 2–0 Manchester United   Lloegr   Stadio Olimpico, Rhufain 62,467
2009–10   Yr Eidal Internazionale 2–0 Bayern München   Yr Almaen   Santiago Bernabéu Stadium, Madrid 73,490
2010–11   Sbaen Barcelona 3–1 Manchester United   Lloegr   Wembley Stadium, Llundain 87,695
2011–12   Lloegr Chelsea 1–1*[Ng] Bayern München   Yr Almaen   Allianz Arena, München 62,500
2012–13   Yr Almaen Bayern München 2–1 Borussia Dortmund   Yr Almaen   Wembley Stadium, Llundain 86,298
2013–14   Sbaen Real Madrid 4–1 Atlético Madrid   Sbaen   Estádio da Luz, Lisbon 60,976
2014–15   Sbaen Barcelona 3–1 Juventus   Yr Eidal   Olympiastadion, Berlin 70,442
2015–16   Sbaen Real Madrid 1–1*[H] Atlético Madrid   Sbaen   San Siro, Milan 71,942
2016–17   Sbaen Real Madrid 4-1 Juventus   Yr Eidal   Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd 65,842
2017–18   Sbaen Real Madrid 3-1 Lerpwl   Lloegr   NSC Olimpiyskiy Stadium, Kiev 61,561
2018-19   Wanda Metropolitano, Madrid
2019-20   Atatürk Olympic Stadium, Istanbul

Nodiadau golygu

A. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi amser ychwanegol yn y rownd derfynol gyntaf chwaraewyd dau ddiwrnod yn gynharach.[14]

B. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Lerpwl enillodd 4-2 ar giciau o'r smotyn.[15]

C. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Steaua București enillodd 2-0 ar giciau o'r smotyn.[16]

Ch. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. PSV Eindhoven enillodd 6-5 ar giciau o'r smotyn.[17]

D. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Red Star Belgrade enillodd 5-3 ar giciau o'r smotyn.[18]

Dd. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Juventus enillodd 4-2 ar giciau o'r smotyn.[19]

E. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Bayern München enillodd 5-4 ar giciau o'r smotyn.[20]

F. ^ 0-0 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Milan enillodd 3-2 ar giciau o'r smotyn.[21]

Ff. ^ 3-3 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Lerpwl enillodd 3-2 ar giciau o'r smotyn.[22]

G. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Manchester United enillodd 6-5 ar giciau o'r smotyn.[23]

Ng. ^ 1-1 oedd y sgôr wedi 90 munud ac wedi amser ychwanegol. Chelsea enillodd 5-3 ar giciau o'r smotyn.[24]

Cysylltiadau Cymreig golygu

Mae pedwar Cymro wedi ennill Cwpan Ewrop/Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Joey Jones oedd y Cymro cyntaf i ennill y tlws gyda Lerpwl ym 1976-77[25] ac roedd Jones hefyd yn eilydd y tymor canlynol pan lwyddodd Lerpwl i drechu Club Brugge. Roedd Ian Rush yn rhan o dîm Lerpwl drechodd A.S. Roma ar giciau o'r smotyn ym 1983-84[26] ac yn aelod o dîm Lerpwl gollodd yn erbyn Juventus ym 1984-85.

Ryan Giggs ydi'r unig Gymro sydd wedi ennill y tlws ar fwy nag un achlysur. Roedd yn rhan o dîm Manchester United drechodd Bayern München ym 1998-99[27], a hefyd o'r tîm drechodd Chelsea yn 2007-08[28]. Mae Giggs hefyd wedi colli mewn dwy rownd derfynol, yn erbyn Barcelona yn 2008-09[29] ac yn 2010-11[30].

Gareth Bale oedd y Cymro cyntaf i sgorio mewn rownd derfynol wrth iddo helpu Real Madrid godi'r tlws yn 2013-14[31].

Terry Yorath oedd y Cymro cyntaf i chwarae yn y rownd derfynol, fel rhan o dîm Leeds United gollodd yn erbyn Bayern München ym 1974-75[32]. Roedd y golgeidwad, Glan Letheren, yn eilydd i Leeds yn yr un flwyddyn. Roedd Craig Bellamy yn eilydd yn rownd derfynol 2006-07 pan gollodd Lerpwl yn erbyn A.C. Milan.

Cymru sydd wedi ennill Cwpan Ewrop a Chynghrair y Pencampwyr UEFA

Tymor Enw Gêm
1976–77   Joey Jones Lerpwl 3-1 Borussia Mönchengladbach
1983–84   Ian Rush Lerpwl 1-1 A.S. Roma
1998-99   Ryan Giggs Manchester United 2-1 Bayern München
2007–08   Ryan Giggs Manchester United 1-1 Chelsea
2013-14   Gareth Bale Real Madrid 4-1(w.a.y.) Atlético Madrid

Lerpwl yn ennill 4-2 ar c.o.s.
Manchester United yn ennill 6-5 ar c.o.s.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Football's premier club competition". Union of European Football Associations. 31 Ionawr 2010. Cyrchwyd 23 Mai 2010.
  2. "Matches". Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. "Club competition winners do battle". Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "FIFA Club World Cup". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. 5.0 5.1 "European Champions' Cup". Rec.Sport.Soccer Statistics Foundation. 2010-01-31.
  6. "1989/90 European Champions Clubs' Cup". UEFA.com. 2010-01-31.
  7. "Mitropa Cup History". Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "RSSSF: Latin Cup". Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Primeira Libertadores – História (Globo Esporte 09/02/20.l.08)". Youtube.com.
  10. 10.0 10.1 "UEFA Champions League anthem". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-11-01. Cyrchwyd 2015-07-20. Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. Media, democracy and European culture. Intellect Books. t. 129.
  12. "Bayern humiliate Barca to set up Champions League final with Dortmund". IBN Live. 2013-05-02. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-09-11. Cyrchwyd 2015-07-20.
  13. "UEFA Champions League – Statistics Handbook 2012/13" (PDF). UEFA.com. Union of European Football Associations. t. 141.
  14. "1973/74: Muller ends Bayern wait". UEFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-24. Cyrchwyd 2015-05-31.
  15. "1983/84: Kennedy spot on for Liverpool". UEFA.com.
  16. "1985/86: Steaua stun Barcelona". UEFA.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-11. Cyrchwyd 2015-05-31.
  17. "1987/88: PSV prosper from Oranje boom". UEFA.com.
  18. "1990/91: Crvena Zvezda spot on". UEFA.com.
  19. "1995/96: Juve hold their nerve". UEFA.com.
  20. "2000/01: Kahn saves day for Bayern". UEFA.com.
  21. "2002/03: Shevchenko spot on for Milan". UEFA.com.
  22. "2004/05: Liverpool belief defies Milan". UEFA.com. Union of European Football Associations. 25 Mai 2005.
  23. "2007/08: Fate favours triumphant United". UEFA.com.
  24. "Shoot-out win ends Chelsea's long wait for glory". UEFA.com.
  25. "European Cup 1976-77". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  26. "European Cup 1983-84". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  27. "UEFA Champions League 1998-99". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  28. "UEFA Champions League 2007-08". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  29. "UEFA Champions League 2008-09". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  30. "UEFA Champions League 2010-11". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  31. "UEFA Champions League 2013-14". UEFA.com. Unknown parameter |published= ignored (help)
  32. "Hanes Cwpan Pencampwyr Ewrop". BBC Chwaraeon. Unknown parameter |published= ignored (help)