Awdures ffuglen Seisnig oedd Kathleen Wendy Herald Peyton MBE (2 Awst 192919 Rhagfyr 2023), neu KM Peyton. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei nofelau Flambards.

K.M. Peyton
GanwydKathleen Wendy Herald Peyton Edit this on Wikidata
2 Awst 1929 Edit this on Wikidata
Birmingham Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 2023 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur plant Edit this on Wikidata
PriodMike Peyton Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Medal Carnegie, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://kmpeyton.co.uk Edit this on Wikidata

Cafodd Peyton ei geni yn Birmingham, Lloegr.[1] Dechreuodd ysgrifennu pan oedd hi'n naw oed. Cafodd ei magu yn Llundain.

Mynychodd hi Ysgol Gelf Kingston, ac yna Ysgol Gelf Manceinion. Gwnaeth hi gwrdd a Mike Peyton, cyn-filwr, arlunydd milwrol ac yn garcharor rhyfel. Priodasant yn 1950 [1] Roedd gan Peyton ddwy ferch: Hilary a Veronica.[1]

Roedd llawer o'i llyfrau'n ymwneud â'i hoff ddifyrrwch, megis marchogaeth. Ysbrydolwyd ei hysgrifennu cynharaf gan ei chariad at geffylau.[2]

Wedyn, ysgrifennodd straeon antur i fechgyn yn bennaf a werthodd fel cyfresi i The Scout, ac a gyhoeddwyd yn llawn yn ddiweddarach.

Helpodd ei gŵr hi yn ei hysgrifennu trwy ddyfeisio plotiau. Ysgrifennodd hi hefyd dan enwau eraill, megis Ruth Hollis a Jonathan Meredith.

Addaswyd y drioleg Flambards gan Yorkshire Television yn 1978 fel cyfres deledu.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Peyton, Kathleen Wendy (Herald) 1929-". Encyclopedia.com. Cyrchwyd 2023-06-02.
  2. "KM Peyton, doyenne of pony fiction who won the Carnegie Medal for her Flambards series – obituary". Telegraph. 27 Rhagfyr 2023. Cyrchwyd 28 Rhagfyr 2023.