Kagyupa
Urdd grefyddol sy'n perthyn i Fwdhaeth Tibet yw'r Kagyupa, a sefydlwyd yn yr 11g gan Lama Marpa, disgybl y guru Indiaidd Naropa.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/11/Lamas_Rumtek.jpg/300px-Lamas_Rumtek.jpg)
Rhennir yr urdd yn ddwy is-urdd, y Drukpa a'r Drigung. Pencadlys y Kagyupa er 1960 yw mynachlog Rumtek, yn Sikkim (gogledd-ddwyrain India).