Karakoram
Mynyddoedd o amgylch y ffin rhwng Pacistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina ac India yw'r Karakoram. Yn dechnegol, nid ydynt yn rhan o'r Himalaya, ond yn ymarferol fe'i hystyrir yn aml fel rhan ohonynt.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | llain Alpid, Larger Himalaya |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina, Tajicistan, India, Affganistan, Pacistan |
Uwch y môr | 8,611 metr |
Cyfesurynnau | 35.8831°N 76.5089°E |
Hyd | 500 cilometr |
Cyfnod daearegol | Cretasaidd |
Saif y Karakoram yn rhanbarthau Gilgit, Ladakh, a Baltistan. Mae'n cynnwys mwy na 60 copa dros 7,000 medr o uchder. Y copa uchaf yw K2, mynydd ail-uchaf y byd, 8,611 m. Ceir mwy o rewlifau yma nag yn unman arall yn y byd heblaw ardal y pegynnau.
Copaon y Karakoram
golygu- K2 (Qogir Feng) (8,611 m)
- Gasherbrum I (8,068 m)
- Broad Peak (Phalchen Kangri) (8,047 m)
- Gasherbrum II (8,035 m)
- Gasherbrum III (7,952 m)
- Gasherbrum IV (7,925 m)
- Distaghil Sar (7,885 m)
- Kunyang Chhish (7,852 m)
- Masherbrum I (7,821 m)
- Batura I (7,795 m)
- Rakaposhi (7,788 m)
- Batura II (7,762 m)
- Kanjut Sar (7,760 m)
- Saltoro Kangri (7,742 m)
- Batura III (7,729 m)
- Saser Kangri (7,672 m)
- Chogolisa (7,665m)
- Haramosh Peak (7,397 m)
- Baintha Brakk (7,285 m)
- Muztagh Tower (7,273 m)