K2 yw'r ail fynydd uchaf yn y byd. Mae'n rhan o fynyddoedd y Karakoram yng ngorllewin yr Himalaya. Saif ar y ffin rhwng Pacistan a Tsieina (er bod y diriogaeth yn cael ei hawlio gan India hefyd).

K2
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlKarakoram, dau, Henry Haversham Godwin-Austen Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolSeven Second Summits, Copaon dros 8, ultra-prominent peak Edit this on Wikidata
SirTaxkorgan Tajik Autonomous County Edit this on Wikidata
GwladPacistan, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Uwch y môr8,611 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.8811°N 76.5133°E Edit this on Wikidata
Amlygrwydd4,020 metr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBaltoro Muztagh Edit this on Wikidata
Map

Ni ymddengys bod enw brodorol, dilys ar y mynydd. Cyfeiria'r awdurdodau Tsieineaidd ato fel Qogir; enw sy'n deillio o Chogori, ei hun yn enw a ddyfeisiwyd gan fforwyr Gorllewinol o ddau enw Balti, chhogo ("mawr") a ri ("mynydd"). Mae'r enw Saesneg Mount Godwin-Austen hefyd wedi ei ddefnyddio ar adegau. Enwyd fe yn K2 pan wnaed archwiliad o'r ardal ym 1856 gan dîm dan arweiniad Henry Haversham Godwin-Austen. Roedd mynyddoedd eraill y Karakoram wedi eu nodi fel K1, K3, K4 a K5, ond cawsant hwy eu hailenwi yn ddiweddarach yn Masherbrum, Broad Peak, Gasherbrum II a Gasherbrum I.

Ystyrir mai K2 yw'r mynydd anoddaf i'w ddringo yn y byd, oherwydd ei fod yn llawer anoddach yn dechnegol na Mynydd Everest a dim ond fymryn yn is. Gwnaed yr ymgais gyntaf i'w ddringo ym 1902 gan Oscar Eckenstein ac Aleister Crowley. Methodd yr ymdrech, a'r un peth ddigwyddodd i ymdrechion ym 1909, 1934, 1938, 1939 a 1953. Ar 31 Gorffennaf 1954, llwyddodd ymgyrch Eidalaidd i roi dau ddringwr, Lino Lacedelli ac Achille Compagnoni, ar y copa.

Ni ddringwyd y mynydd eto tan 9 Awst 1977; 23 mlynedd yn ddiweddarach, pan lwyddodd tîm o Japan ei ddringo. Cyrhaeddodd Ichiro Yoshizawa y copa gydag Ashraf Amman o Bacistan. Erbyn hyn, mae'r mynydd wedi'i ddringo o nifer o gyfeiriadau, ond mae'r nifer sydd wedi cyrraedd ei gopa yn llawer llai na'r nifer sydd wedi dringo Everest; erbyn Awst 2004, roedd 246 o bobl wedi dringo K2 tra'r oedd 2,238 wedi dringo Everest. Bu farw o leiaf 67 o ddringwyr yn yr ymgais, gan gynnwys 13 yn ystod 1986 ac 11 yn Awst 2008. Erbyn y flwyddyn honno, amcangyfrifwyd y bu farw 27% o'r bobl a safodd ar y copa ar y ffordd yn ôl i lawr.

Y 14 copa dros 8,000 medr
Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II
K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma