Karl Francis

cyfarwyddwr ffilm a aned yn Bedwas yn 1942

Cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a theledu Cymreig yw Karl Francis (ganwyd 1 Ebrill 1942), sy'n gysylltiedig â gwleidyddiaeth adain chwith.[1] Cafodd ei waith ei ysbrydoli gan bobl fel Chris Marker a Ken Loach ac mae wedi cynhyrchu gwaith yn Saesneg a Chymraeg.

Karl Francis
Ganwyd1 Ebrill 1942, 1943 Edit this on Wikidata
Bedwas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr teledu, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amRebecca's Daughters Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganwyd Francis yn Bedwas, ger Caerffili. Enillodd ysgoloriaeth i astudio ym Mhrifysgol Manceinion lle cafodd radd BA yn 1964. Yna fe fynychodd Hornsey College of Art i astudio am ddiploma ôl-raddedig am Ffilm mewn Addysg. Cychwynnodd ei yrfa yn y byd teledu yn 1971, yn gyntaf fel ymchwilydd annibynnol, cyn cymryd swydd cynhyrchu gyda Weekend World ar gyfer London Weekend Television.[2] Yn 1973 symudodd i'r BBC ac fe gynhyrchodd rhaglenni fel 2nd House.

Yn 1977 fe ysgrifennodd, cynhyrchodd a chyfarwyddodd y ddrama ddogfen Above us the Earth. Roedd y ffilm, a saethwyd yng ngwanwyn a haf 1975, yn cofnodi cau glofa Ogilvie yng Nghwm Rhymni a'r effaith ar y glowyr a'r gymuned ehangach. Mae'r ffilm yn defnyddio actorion proffesiynol ac amatur i ddangos y perthynas rhwng y gweithwyr, undebau a'r Bwrdd Glo Cenedlaethol, ynghyd â ffilm o arweinwyr gwleidyddol y dydd.[3] Mae'r ffilm yn cael ei ystyried yn bwysig am ei sylwebaeth gymdeithasol ac mae nawr yn rhan o Archif Sgrîn a Sain Cymru. Yn 2010 fe ddewiswyd Above us the Earth gan wefan celf BBC Cymru fel un o'r deg ffilm gorau am Gymru.[4] Yn 2012, fe ddewisodd y BFI/UK Film Council  Above Us The Earth fel y ffilm annibynnol orau a wnaed erioed yng Nghymru.

Yn 1995 fe'i hapwyntiwyd yn Bennaeth Drama BBC Cymru,[5] a pharhaodd yn y swydd tan 1997.[1]

Yn 2008 rhyddhaodd y ffilm Hope Eternal, sy'n dweud stori nyrs o Madasgar yn gweithio mewn hosbis twbercwlosis ac AIDS yn y Congo. Fe wnaed Hope Eternal mewn chwe iaith gan gyfuno ffilm a barddoniaeth ar yr un pryd yn defnyddio isdeitlau Saesneg. Agorwyd Gŵyl Ffilm Hay Sony 2008 gyda'r ffilm a fe'i cynigwyd fel enwebiad y DU yng nghategori Ffilm Iaith Dramor Orau yr 82fed Gwobrau yr Academi; ond ni chafodd ei ddewis ar gyfer y pum enwebiad olaf.[6]

Yng Ngorffennaf 2009 fe roddwyd Francis ar gofrestr troseddwyr rhyw y DU ar ôl "cyfaddef drwgweithredoedd" mewn perthynas â gwneud lluniau anweddus o blant.[7] Fe wnaeth Francis ddatgan ei fod yn gweithio ar ffilm am y broblem o fasnachu plant ar gyfer rhyw, ac er ei fod wedi hysbysu'r heddlu am natur ei ymchwiliad o flaen llaw, roedd yn teimlo fod rhaid iddo dderbyn y rhybudd ar ôl i'w gyfrifiadur, oedd yn cynnwys gwaith ysgrifenedig ei fywyd, gael ei feddiannu.[8] Yng Ngorffennaf 2011 siaradodd Francis yn gyhoeddus am ei ddymuniad i weld y system rybuddio, lle cafodd ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am ddwy flynedd, yn cael ei ddiwygio, i ystyried gwaith ymchwil dilys. Yn Awst 2011, fe wnaeth Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu dderbyn honiad Francis fod Heddlu De Cymru wedi methu ymchwilio i gyfres o gwynion am driniaeth ei achos.[9] Ers 1 Awst 2011 mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'w gwynion.[9]

Ffilmiau

golygu
  • Above Us the Earth (1977)
  • The Mouse and the Woman (1980)
  • Giro City (1982)
  • Yr Alcoholig Llon (1983)
  • Milwr Bychan (1984)
  • Ms.Rhymney Valley" (1985)
  • Nineteen 96 (1989)
  • Rebecca's Daughters (1992)
  • Streetlife (1995)
  • One of the Hollywood Ten (2000)
  • Hope Eternal (2008)

Teledu

golygu
  • Factfinder (1971)
  • Chekhov in Derry (1982)
  • Morphine and Dolly Mixtures (1990)
  • Raymond Williams: a Journey of Hope (1990)
  • Civvies (1992)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Francis, Karl (1942- )". BFI Screenonline. Cyrchwyd 26 Ionawr 2010.
  2. "Francis, Karl (1942- )". BFI Screenonline. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
  3. "Above us the Earth". movinghistory.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-30. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
  4. "Top 10 Welsh films: Above Us The Earth". BBC Wales. 2010. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
  5. Culf, Andrew (14 December 1995). "Drama revival in BBC £191m winter season". The Guardian. t. 9. Italic or bold markup not allowed in: |newspaper= (help)
  6. "Welsh film on Academy Award list". BBC News. 18 Hydref 2008. Cyrchwyd 17 Awst 2011.
  7. "Film director Karl Francis put on sex offenders' register". South Wales Echo. Walesonline. 2 Gorffennaf 2009. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
  8. Shipton, Martin (22 Gorffennaf 2011). "Film director Karl Francis wants police caution reform after being branded sex offender". Western Mail. Walesonline. Cyrchwyd 8 Awst 2011.
  9. 9.0 9.1 Shipton, Martin (1 Awst 2011). "Film director cautioned for downloading indecent images for research wins complaints victory against police". Western Mail. Walesonline. Cyrchwyd 8 Awst 2011.

Dolenni allanol

golygu