Katharine Whitehorn
Roedd Katharine Elizabeth Whitehorn CBE (17 Mawrth 1928 – 8 Ionawr 2021) yn newyddiadurwraig Prydeinig. Hi oedd y fenyw gyntaf i gael colofn yn y papur newydd wythnosol The Observer, a hefyd y fenyw gyntaf i ddod yn rheithor prifysgol yn yr Alban.
Katharine Whitehorn | |
---|---|
Ganwyd | 2 Mawrth 1928 Hendon |
Bu farw | 8 Ionawr 2021 Llundain |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor |
Gwobr/au | CBE |
Cafodd ei geni yn Hendon, Llundain,[1][2][3] yn ferch tad sosialydd a oedd wedi bod yn wrthwynebydd cydwybodol.
Cafodd ei addysg yn yr ysgol Roedean a'r Ysgol Uwchradd Glasgow. Graddiodd o Goleg Newnham, Caergrawnt. Gweithiodd i'r cylchgrawn Woman's Own, ac wedyn i Picture Post a The Observer (1960-1996). Priodod y nofelydd Gavin Lyall (m. 2003) ym 1958.[2]
Roedd Whitehorn yn rheithor Prifysgol St Andrews o 1982 hyd 1985.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thorpe, Vanessa (9 Ionawr 2021). "'Wise, clever and kind, Katharine Whitehorn made it easier for all of us who followed her'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ 2.0 2.1 "Katharine Whitehorn, crusading journalist who explored the role of women in society – obituary". The Daily Telegraph (yn Saesneg). 9 Ionawr 2021. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ Dwyer, Ciara (16 Mawrth 2008). "The liberated woman". Irish Independent (yn Saesneg). Dulyn. Cyrchwyd 9 Ionawr 2021.
- ↑ MacIntyre, Lorn (22 Mawrth 1990). "Those salad days of flour power". The Glasgow Herald (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Rhagfyr 2018.