Seiclwr trac ydy Catherine Rachel "Katie" Curtis (ganwyd 1 Tachwedd 1988 yng Nghaerdydd). Dechreuodd rasio gyda chlwb plant y Maindy Flyers yng Nghaerdydd cyn ymuno â'r clwb Cardiff Ajax. Mae'n aelod o dîm gwledydd Prydain ar y Rhaglen Datblygu Olympaidd, bu'n rasio dros Team Halfords Bike Hut a bellach gyda'r Podium Ambition Pro Cycling pan nad yw'n rasio dros ei gwlad.

Katie Curtis
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnCatherine Rachel Curtis
Dyddiad geni (1988-11-01) 1 Tachwedd 1988 (35 oed)
Manylion timau
DisgyblaethTrac
RôlReidiwr
Math seiclwrDygner
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
Team Halfords Bike Hut
Golygwyd ddiwethaf ar
11 Gorffennaf, 2007

Mae'n dal Record Tandem 'Standing Start' 5 Km Merched ynghyd â Alex Greenfield, gydag amser o 7 munud 4.424 eiliad. Gosodwyd y record yn Velodrome Casnewydd ar 10 Mehefin 2004.

Cafodd ei deiagnosio o fod a'r Clefyd Crohn arni a dechreuodd hyfforddi seiclwyr eraill yn Velodrome Cenedlaethol Cymru, Llyswyry, Casnewydd.

Canlyniadau golygu

Trac golygu

2004
4ydd Treial Amser 500m Merched Gemau'r Gymanwlad Iau
7fed Ras Bwyntiau Merched Gemau'r Gymanwlad Iau
2005
1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Scratch Merched Iau
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Bwyntiau Merched Iau
3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol Sbrint Merched Iau
2006
1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Bwyntiau Merched Iau
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Scratch Merched Iau
2il Pencampwriaeth Cenedlaethol Ras Bwyntiau Merched
2007
1af Pencampwriaeth W.C.R.A. 'Derny Paced' Merched
3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol 'Derny Paced' Merched
8fed Ras Scratch, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI

Ffordd golygu

2007
1af Pencampwriaeth Cenedlaethol Ffordd (Cymru)
3ydd Pencampwriaeth Cenedlaethol Criterium

Dolenni allanol golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.