Keith Clark
Biwglwr ym Myddin yr Unol Daleithiau oedd Keith Collar Clark (21 Tachwedd 1927 – 10 Ionawr 2002)[1] sy'n enwog am ganu'r utganiad "Taps" yn angladd yr Arlywydd John F. Kennedy ym 1963. Canodd y chweched nodyn yn ddigywair, ac i nifer roedd y camgymeriad hwn yn symbol o alar y genedl Americanaidd.[2]
Keith Clark | |
---|---|
Ganwyd | 21 Tachwedd 1927 Grand Rapids |
Bu farw | 10 Ionawr 2002 o ymlediad aortaidd Fort Pierce |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | trympedwr |
Bywyd cynnar
golyguGanwyd Keith Clark yn Grand Rapids, Michigan. Dysgodd y trwmped pan oedd yn blentyn.
Milwr
golyguRoedd y Rhingyll Keith Clark yn brif drympedwr Band Byddin yr Unol Daleithiau pan cafodd yr Arlywydd Kennedy ei lofruddio ar 22 Tachwedd 1963. Ar ddiwrnod yr angladd, 25 Tachwedd 1963, cafodd Clark ei orchymyn i ganu "Taps". Cymerodd ei le am 12:15, a safodd yn y glaw mân heb gôt uchaf am bron i dri awr. Ar ôl y saliwt 21-canon, taniodd griw o reifflwyr dri thaniad er cof am Kennedy. Roedd y criw yn sefyll dim ond pum llath i ffwrdd o Clark, ac felly cafodd ei daro'n fyddar am eiliad. Yna, am 15:08, canodd "Taps" gan faglu ar y chweched nodyn.[3][4]
Wedi'r angladd, tybiodd nifer o bobl i Clark dorri'r nodyn yn fwriadol,[5] ond yn ôl Clark pwysau yn unig oedd achos y camgymeriad.[2]
Arddangosir y biwgl ym Mynwent Genedlaethol Arlington yn rhan o arddangosfa ar hanes "Taps".
Bywyd wedi'r fyddin
golyguYmddeolodd o'r fyddin ym 1966. Addysgodd gerddoriaeth yng Ngholeg Houghton yn Houghton, Efrog Newydd. Symudodd i Florida ym 1980 ac roedd yn byw yn Port Charlotte, Florida, adeg ei farwolaeth. Bu farw Clark yn 74 oed mewn ysbyty yn Fort Pierce, Florida, o ymlediad aortaidd o ganlyniad i ganu'r trwmped mewn datganiad cerddorfa.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Keith Clark, Bugler at JFK’s Funeral. Taps Bugler. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) A Bugle Call Remembered - Taps at the funeral of President John F. Kennedy. Taps Bugler. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Goldstein, Richard (17 Ionawr 2002). Keith Clark, Bugler for Kennedy, Dies at 74. The New York Times. Adalwyd ar 25 Awst 2013.
- ↑ (Saesneg) Lowens, Irving (1 Rhagfyr 1963). Accurate Listing of Funeral Music. The Washington Star. Llyfrgell ac Amgueddfa Arlywyddol John F. Kennedy. Adalwyd ar 26 Awst 2013.
- ↑ (Saesneg) Bugler recalls missing note while playing Taps at Kennedy funeral. Associated Press (14 Tachwedd 1988). Adalwyd ar 26 Awst 2013.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Keith Clark yn canu "Taps" yn angladd Kennedy ar YouTube
- (Saesneg) Ysgrif goffa Keith Clark Archifwyd 2008-08-29 yn y Peiriant Wayback gan yr International Trumpet Guild