Coleg addysg bellach yn Sir Gaerfyrddin yw Coleg Sir Gâr, gyda phum campws ar draws y sir. Mae'n aelod o gorff ColegauCymru.

Coleg Sir Gâr
Mathcoleg addysg bellach Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1985 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.687°N 4.188°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN488009 Edit this on Wikidata
Map

Y coleg golygu

Mae Coleg Sir Gâr yn goleg addysg bellach mawr ar sawl safle. Mae’n rhan o Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Lleolir y coleg yn Ne Orllewin Cymru ac mae ganddo bum prif gampws. Maent yn amrywio o ran maint a natur ac yn cynnig amrywiaeth o bynciau. Mae'r coleg yn cynnig addysg bellach, addysg i oedolion ac yn y gymuned, addysg uwch a dysgu yn y gwaith. Mae tua 10,000 o fyfyrwyr i gyd, gyda rhyw 3,000 ohonynt yn llawn amser a 7,000 yn rhan-amser. Mae dros 900 o fyfyrwyr addysg uwch.

Mae'r coleg yn cynnig ystod eang o raglenni addysg a hyfforddiant academaidd a galwedigaethol, gan gynnwys hyfforddiant wedi'i deilwra yn arbennig ar gyfer cyflogwyr. Mae'r cyrsiau'n amrywio o lefel cyn-fynediad i lefel ôl-raddedig. Mae hefyd yn cynnig ei ddarpariaeth ar-lein, trwy bartneriaethau mewn lleoliadau cymunedol ac yn y gweithle. Mae rhaglenni hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith yn cael eu cynnig hefyd, sef fel prentisiaethau sylfaen a modern.

Mae'r coleg hefyd yn darparu ar gyfer tua 1000 o ddisgyblion ysgol 14-19 oed sy'n mynychu'r coleg neu'n cael eu haddysgu gan staff y coleg yn eu hysgolion.

Penodwyd pennaeth newydd ar 31 Awst 2018, yn dilyn ymddeoliad Barry Liles.[1]

Mae gan y coleg drosiant blynyddol o tua £30m ac mae'n cyflogi tua 850 o staff. Mae tua 450 o'r rhain yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysgu ac mae 400 yn darparu swyddogaethau cymorth a gweinyddol.[2]

Mae'r coleg wedi uno â Choleg Ceredigion.

Campysau golygu

Coleg Sir Gâr

Coleg Ceredigion

Hanes golygu

Mae Coleg Sir Gâr wedi bod yn darparu addysg bellach ers 1985.[3] Cychwynodd fel Coleg Technoleg a Chelf Sir Gaerfyrddin (CCTA) trwy uno sawl coleg technegol a Choleg Celf Dyfed. Ym 1992, daeth y coleg yn gorfforaeth annibynnol, ar ôl bod o dan reolaeth yr awdurdod addysg lleol cyn hynny. Ers 1 Awst 2013, mae’r coleg wedi bod yn rhan o Grŵp Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Arferai Ysgol Ramadeg y Bechgyn Llanelli ac Ysgol Gyfun y Graig fod ar Gampws y Graig, Llanelli.[3] Fel CCTA, roedd campws Llanelli wedi'i leoli ar Heol Alban yn Llanelli. Hwn oedd safle hen Goleg Technegol Llanelli.

Dechreuodd Ysgol Gelf Caerfyrddin ym 1854. Cyfunodd â choleg Llanelli yn 1971 i ddod yn Goleg Celf Dyfed. Ym 1979 adeiladwyd y campws newydd yn Heol Ffynnon Job, Caerfyrddin.[4]

Coleg rhithwir golygu

Crëwyd y virtualcollege.ac.uk gan Goleg Sir Gâr yn 1998 i gwrdd â gofynion cynyddol diwydiant yn Sir Gaerfyrddin. Cyflwynwyd y cyrsiau hyfforddi a ddatblygwyd, ym maes sgiliau TG, yn gyfan gwbl ar-lein. Ers hynny mae'r coleg rhithwir wedi ehangu i gynnwys bron i 1000 o gyrsiau mewn nifer o feysydd, gan gynnwys hyfforddiant athrawon, cyfrifeg, busnes, arweinyddiaeth a rheolaeth, iechyd a diogelwch ac ieithoedd. Mae'r holl gyrsiau achrededig yn cael eu cyflwyno'n gyfan gwbl ar-lein gyda chefnogaeth tiwtoriaid o'r coleg.

Cyn-ddisgyblion nodedig golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Dr Andrew Cornish announced as new Principal for Coleg Sir Gar". 5 September 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-20. Cyrchwyd 2023-05-09.
  2. Lowe, Jonathan (2017). A students Guide into Business.
  3. 3.0 3.1 "Coleg Sir Gâr guide". Education. The Telegraph. Cyrchwyd 5 April 2013.
  4. Lewis Webb, Barbara. "The Carmarthen School of Art". Carmarthen Museum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2023-05-09.

Dolenni allanol golygu