Kenneth Williams
Actor comedi Cymreig oedd Kenneth Charles Williams (22 Chwefror 1926 – 15 Ebrill 1988), a ymddangosodd mewn 26 o ffilmiau a alwyd yn "ffilmiau Carry On" yn ogystal â chomedïau radio gyda Tony Hancock a Kenneth Horne. Roedd hefyd yn ddigrifwr ar ei draed a oedd yn enwog iawn am ei ffraethineb a'i ystumiau merchetaidd.
Kenneth Williams | |
---|---|
Ganwyd | Kenneth Charles Williams 22 Chwefror 1926 Islington |
Bu farw | 15 Ebrill 1988 o gorddos o gyffuriau Camden |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Galwedigaeth | actor, digrifwr, dyddiadurwr, llenor, undebwr llafur, cyflwynydd radio, actor llais, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu |
Ei fywyd a'i waith
golyguGanwyd Kenneth Williams ym 1926 yn Stryd Bingfield, King's Cross, Llundain. Yn fab i farbwr o'r enw Charles Williams, derbyniodd ei addysg yn Ysgol Lyulph Stanley. Roedd ganddo berthynas arbennig o dda gyda'i fam fywiog, Louisa ("Lou") ond perthynas tra gwahanaol oedd ganddo gyda'i dad a oedd yn ei dŷb ef yn ddiflas a hunanol. Roedd perthynas Williams gyda'i reini'n allweddol i ddatblygiad ei bersonoliaeth. Daeth Williams yn brentis i wneuthuriwr mapiau ac ymunodd â'r fyddin pan oedd yn 18 oed dan orfodaeth filwrol. Roedd yn rhan o adran arolwg y Peiriannwyr Brenhinol ym Mumbai pan berfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf, ynghyd ag Adloniant Gwasanaethau Cyfun, Stanley Baker a Peter Nichols.
Y Perfformiwr Comig
golyguAr ôl y rhyfel, dechreuodd gyrfa Williams yn y theatr, ond ychydig iawn o rannau a weddai i'r modd y cyflwynai'r sgript. Teimlodd siom am fethu bod yn actor dramatig difrifol, ond cafodd gyfle i serennu fel perfformiwr comig. Fe'i gwelwyd yn chwarae'r Dauphin yn St.Joan (George Bernard Shaw) ym 1954 gan y cynhyrchydd radio Dennis Main Wilson, a oedd yn castio Hancock's Half Hour a bu Williams yn gweithio ar y rhaglen tan y gorffennodd bum mlynedd yn ddiweddarach. Daeth ei lais trwynol a oedd yn gymysgedd o camp ac acen cockney yn hynod boblogaidd gyda'r gwrandawyr a pharhaodd Williams i fod yn boblogaidd gyda'r cyhoedd am flynyddoedd.
Pan benderfynodd Hancock ymbellhau o'r hyn a ystyriai ef fel gimmicks a lleisiau gwirion, dechreuodd Williams ymwneud llai â'r rhaglen. Wrth iddo syrffedu â'i ymddangosiadau llai rheolaidd, ymunodd Williams â Kenneth Horne yn Beyond Our Ken (1958–1964), a'i olynydd, Round the Horne (1965–1968). Yn Round the Horne, roedd rhannau Williams yn cynnwys Rambling Syd Rumpo, y canwr gwerin egsentrig; The Amazing Proudbasket, y bêl canon dynol; J. Peasemold Gruntfuttock, yr anadlwr dwfn ar y ffôn a'r hen ddyn brwnt; a Sandy o'r cwpwl camp, Julian a Sandy (chwaraewyd Julian gan Hugh Paddick). Roeddent yn enwog am eu double entendres a'i ymadroddion bratiog hoyw a elwir yn Polari.
Ymddangosodd Williams yn sioeau'r West End hefyd gan gynnwys Share My Lettuce gyda Maggie Smith a ysgrifennwyd gan Bamber Gascoigne. Bu hefyd yng nghast Pieces of Eight, a oedd yn cynnwys deunydd wrth Peter Cook a oedd ar y pryd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt. Roedd y sioe'n cynnwys sgetsys gan Cook megis One Leg Too Few a fyddai'n datblygu i fod yn glasuron y dyfodol. Sioe olaf Williams oedd One over the Eight, gyda Sheila Hancock. yn ddiweddarach, perfformiodd Williams gyda Jennie Linden yn My Fat Friend ym 1972. Perfformiodd gyda Ingrid Bergman hefyd yn y sioe lwyfan o Captain Brassbound's Conversion gan George Bernard Shaw ym 1971.