Cilt
Dilledyn Celtaidd yw'r cilt (kilt) a gysylltir â'r Alban ac Iwerddon yn bennaf. Mae'n fath o wisg i'w lapio o gwmpas canol y corff gan ddynion, gyda phlygiadau yn y blaen ac o gwmpas y canol. Y deunydd fel rheol yw twill o wlân wedi'i phlethu ac sy'n arddangos patrwm tartan cymesurol (plaid) sydd wedi'i gofrestru gan y Scottish Tartans Authority neu a gydnabyddir fel tartan swyddogol gan un o'r claniau Albanaidd. Mae'r cilt Gwyddelig o ffurf gyffelyb ond gwahanol.
Yn yr Alban, datblygodd y cilt cyfarwydd o wisg draddodiadol a elwir y 'Cilt mawr' (Great kilt) a gwisgoedd cyffelyb fel y philabeg ('Cilt bach'). Byddai dynion Ucheldiroedd yr Alban yn gwisgo'r darn mawr hynny o frethyn gwlân wedi ei lapio o gwmpas canol y corff a thros y blaen a'r ysgwyddau hefyd.
Erbyn hyn ceir sawl math o cilt a dillad tebyg iddo, yn cynnwys y "Cilt Cymreig" sy'n ffasiynol gan rai yn ddiweddar. Fodd bynnag, ni cheir unrhyw dystiolaeth fod Cymry'r Oesoedd Canol a chynt yn gwisgo ciltiau; i'r gwrthwyneb, nodweddid y Brythoniaid, cyn-deidiau'r Cymry, gan eu harfer o wisgo trowsus, fel y mae Iŵl Cesar yn tystio yn y ganrif gyntaf CC.