Trowsus
Dilledyn ydy trowsus neu llodrau, sy'n ymestyn o'r cluniau i'r migyrnau gan orchuddio'r coesau'n unigol (yn hytrach na gyda darn o ddefnydd yn ymestyn o amgylch y ddwy goes megis sgert). Yn y gorllewin, dilledyn ar gyfer dynion oedd trowsus ers yr 16eg ganrif, ond erbyn yr 20fed ganrif caent eu gwisgo'n gyffredin gan ferched yn ogystal.
Yn y 15fed ganrif cysylltid trywsusau llac gwlanog gyda’r dosbarth cymdeithasol isaf a'r enw arnynt oedd llawdr neu llodrau. Cysylltir hwy â lladron a dyna darddiad y gair. Ar y llaw arall, daeth trywsusau tynn iawn a elwid yn hose yn Saesneg neu'n 'hosan' yn y Gymraeg yn boblogaidd gan yr uchelwyr. Roedd yr 'hosanau' canoloesol yn wahanol iawn i'r hyn a wisgir heddiw. Arferid eu gwisgo gyda'r 'ddwbled gwta' ac roeddent yn ffyrnigo rhai pobl gan eu bod yn dangos gormod o siâp y corff, gan eu bod yn ymestyn o’r esgid hyd at dop y goes.[1]
Delweddau
golygu-
Copis (neu falog); (o'r Saesneg: Codpiece. Antonio Navagero, Milan, 1565
-
Copis ar drowsus "Pluderhose" bachgen yr Ymerawdwr Maximilian II o Awstria, 1567
-
Trowsus pluderhose, 1566
-
Trowsus dwyn fala; Sbaen 1925.
-
Trowsus traddodiadaol "shalwar kameez" o Dwrci. Caiff ei wisgo hefyd ym Mhacistan, Affganistan a Cashmir.
-
Pâr o jins "Levis" ar ddyn
-
Ofyrôls (o'r Saesneg: overalls); dillad addas i labro.
-
Trowsus Capri, neu drowsus hanner mast.
-
Trowsus cwta. Mae'r math yma'n addas ar gyfer chwaraeon.
-
Trowsus cwta ar gyfer y traeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ gutorglyn.net; adalwyd 23 Rhagfyr 2015