King Lear
Drama yw King Lear gan y dramodydd Seisnig William Shakespeare, yn seiliedig ar chwedl Llŷr fel y mae'n ymddangos yng ngwaith Sieffre o Fynwy Historia Regum Britanniae a thestunau eraill. Fe'i gwelir fel un o weithiau mwyaf Shakespeare, ac mae rôl y brenin yn cael ei weld fel un o'r rai pwysicaf ac enwocaf i actor allu ei chwarae.
CymeriadauGolygu
- Lear, brenin Prydain
- Goneril, merch Lear
- Regan, merch Lear
- Cordelia, merch Lear
- Iarll Caint
- Iarll Caerloyw
- Edgar, mab i'r Iarll Caerloyw
- Edmund, mab anghyfreithlon i'r Iarll Caerloyw
- Cellweiriwr