Llŷr

cymeriad yn y Mabinogi

Cymeriad y ceir sôn amdano ym Mhedair Cainc y Mabinogi ac yn y Trioedd Cymreig yw Llŷr. Credir ei fod yn wreiddiol yn cyfateb i Lir ym mytholeg Iwerddon, ac yn dduw'r môr: ystyr y gair Cymraeg Canol llŷr yw 'môr, eigion'.[2]

Llŷr
Duw'r môr, iacháu, a swyngyfaredd[1]
Enwau eraillLlŷr Llediaith
Prif le cwltCymru
RhywGwryw
ConsortPenarddun[1]
EpilManawyddan, Bendigeidfran, a Branwen[1]
Cywerthyddion
GwyddeligLir

Yn y Pedair Cainc, nid yw'n ymddangos fel cymeriad yn y stori, ond ef yw tad Brân, Branwen a Manawydan; Penarddun yw eu mam. Yn y Trioedd, rhestrir Llŷr (fel Llŷr Llediaith) yn un o 'Dri Goruchel Garcharor Ynys Prydain' am iddo gael ei ddal yn garcharor gan Euroswydd. Yn chwedl Branwen ferch Llŷr yn y Pedair Cainc, dywedir mai Euroswydd yw tad dau fab ieuengaf Penarddun, Nisien ac Efnisien, felly dichon fod yr hanes yn y Trioedd yn deillio o chwedl goll am ymryson rhwng Euroswydd a Llŷr am gariad Penarddun.[3]

Credir mai Llŷr oedd sail y cymeriad Leir yn hanesion Sieffre o Fynwy, a thrwyddo ef y cymeriad Lear yn nrama King Lear gan William Shakespeare.

Llys Llŷr

golygu
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Beli mab Mynogan
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Llŷr
 
 
 
 
 
Penarddun
 
 
 
 
Euroswydd
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Brân(♂)
 
Manawydan(♂)
 
Rhiannon
 
Pwyll
 
Brânwen(♀)
 
Matholwch
 
Nisien(♂)
 
 
Efnisien(♂)
 
 
 


Nodyn: Blwch heb ffin: teulu drwy briodas, nid gwaed.

Gyda'i gilydd, enw torfol ar blant Llŷr ydy Plant y Tywyllwch, o gymharu â Phlant y Goleuni Dôn.[1]

Llyfryddiaeth

golygu
  • d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages. Avalonia.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn Saesneg). Avalonia. t. 177.
  2. Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyfrol II, tud. 2275.
  3. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), Triawd.

Gweler hefyd

golygu