Awdures o India yw Kiran Desai (ganwyd 3 Medi 1971) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd ac awdur.

Kiran Desai
Ganwyd3 Medi 1971 Edit this on Wikidata
Delhi Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner India India
Alma mater
Galwedigaethnofelydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Inheritance of Loss Edit this on Wikidata
Arddullnofel Edit this on Wikidata
MamAnita Desai Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Man Booker, Cymrodoriaeth Guggenheim, Berlin Prize Edit this on Wikidata

Enillodd ei nofel The Inheritance of Loss Wobr Man Booker 2006 a National Book Critics Circle Fiction Award. Ym mis Ionawr 2015, roedd The Economic Times, prif gyhoeddiad busnes India, yn ei rhestru fel un o 20 o fenywod Indiaidd "mwyaf dylanwadol", yn fyd-eang.[1][2]

Magwraeth golygu

Fe'i ganed yn Delhi Newydd ar 3 Medi 1971. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia, Prifysgol Bennington ac Ysgol Gelf Columbia.[3][4][5]

Mae Kiran Desai yn ferch i Anita Desai, a fu ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Booker deirgwaith. Cafodd ei geni yn Delhi, yna treuliodd flynyddoedd cynnar ei bywyd yn Pune a Mumbai. Astudiodd yn yr Eglwys Gadeiriol ac Ysgol John Connon. Gadawodd India yn 14 oed, ac yna bu hi a'i mam yn byw yn Lloegr am flwyddyn, cyn symud i'r Unol Daleithiau, lle bu'n astudio ysgrifennu creadigol yng Ngholeg Bennington, Prifysgol Hollins, a Phrifysgol Columbia.[6][7]

Yr awdur golygu

Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Hullabaloo in the Guava Orchard, yn 1998 a derbyniodd ganmoliaeth gan bobl fel Salman Rushdie.[8] Enillodd y nofel Wobr Betty Trask,[9] gwobr a roddir gan 'Gymdeithas yr Awduron' am y nofelau newydd gorau gan ddinasyddion y Gymanwlad sydd dan 35 oed.[10]

Canmolwyd ei hail gyfrol, The Inheritance of Loss, (2006) gan feirniaid llenyddol drwy Ewrop, Asia ac UDA, gan ennill y Wobr Man Booker, yn ogystal a'r National Book Critics Circle Fiction Award yn 2006.[2]

Yn Awst 2008, bu Desai yn westai ar y rhaglen Private Passions, pan gafodd ei holi gan Michael Berkeley ar BBC Radio 3.[11]

Anrhydeddau golygu


Cyfeiriadau golygu

  1. "Kiran Desai". The Man Booker Prizes. The Booker Prize Foundation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 Hydref 2012. Cyrchwyd 23 Awst 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 Italie, Hillel (2007-03-09). "Desai's 'Inheritance' Wins Book Critics Circle Award". The Washington Post. Cyrchwyd 2013-08-23.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13531866f. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb13531866f. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  5. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Kiran Desai". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Kiran Desai". "Kiran Desai". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. "Bold Type: Interview with Kiran Desai". Random House. Cyrchwyd 2011-06-14.
  7. Anrhydeddau: https://thebookerprizes.com/fiction/backlist/2006. https://www.americanacademy.de/person/kiran-desai/.
  8. "Hullabaloo In The Guava Orchard". BookBrowse. Cyrchwyd 2011-06-14.
  9. "Society of Authors — Prizes, Grants and Awards". Society of Authors. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Chwefror 2007. Cyrchwyd 2011-06-14. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. "The Betty Trask Prize and Awards". Christchurch City Libraries. Cyrchwyd 2011-06-14.
  11. BBC – Radio 3 – Private Passions
  12. https://thebookerprizes.com/fiction/backlist/2006.
  13. https://www.americanacademy.de/person/kiran-desai/.