Anita Desai
Awdures Indiaidd yw Anita Desai (ganwyd 24 Mehefin 1937) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, nofelydd, academydd ac awdur storiau byrion. Fel awdur mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Booker deirgwaith. Derbyniodd Wobr Sahitya Akademi yn 1978 am ei nofel Y Tân ar y Mynydd, o 'Akademi Sahitya', Academi Llythyrau Genedlaethol India. Enillodd wobr y 'Guardian Prydeinig' am ei nofel Y Pentref ar Lan y Môr.[1]
Anita Desai | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mehefin 1937 Mussoorie |
Dinasyddiaeth | India |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, academydd, awdur storiau byrion |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Fire on the Mountain |
Plant | Kiran Desai |
Gwobr/au | Padma Bhushan in literature & education, Gwobr Padma Shri mewn Llenyddiaeth ac Addysg, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Sahitya Akademi, Gwobr Goffa Winifred Holtby, Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant, Gradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds |
llofnod | |
Fe'i ganed yn Mussoorie, India ar 24 Mehefin 1937 mewn cartref pedair-ieithog: yr Almaeneg, Bengali, Wrdw, Hindi a Saesneg y tu allan i'r cartref. Almaenes oedd ei mam, Toni Nime, a dyn busnes oedd ei thad. Nid ymwelodd â'r Almaen tan oedd yn oedolyn. Dechreuodd ysgrifennu Saesneg yn saith oed a chyhoeddodd ei stori gyntaf yn naw mlwydd oed.[2][3][4][5]
Bu'n fyfyriwr yn Ysgol Uwchradd y Frenhines Mary yn Delhi a derbyniodd ei B.A. mewn llenyddiaeth Saesneg ym 1957 o Brifysgol Delhi. Yn 1958 priododd Ashvin Desai, cyfarwyddwr cwmni meddalwedd cyfrifiadurol ac awdur y llyfr Between Eternities: Ideas on Life a The Cosmos. Mae ganddynt bedwar o blant, gan gynnwys y nofelydd arobryn Gwobr Booker, Kiran Desai. Aethant â'u plant i Thul (ger Alibagh) am wyliau ar benwythnosau, lle gosododd Desai ei nofel The Village by the Sea. [6][7]
Yn 2019 roedd yn parhau yn ei swydd fel athro'r dyniaethau yn y Massachusetts Institute of Technology.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth, Academi Celfyddydau a Llythyrau America am rai blynyddoedd.
Ffilm
golyguYn 1993, addaswyd ei nofel In Custody gan Merchant Ivory Productions i'r Saesneg, dan gyfarwyddyd Ismail Merchant, gyda sgript y ffilm gan Shahrukh Husain. Enillodd y ffilm Fedal Aur 1994 ar gyfer yr actorion: Shashi Kapoor, Shabana Azmi ac Om Puri.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Padma Bhushan in literature & education (2014), Gwobr Padma Shri mewn Llenyddiaeth ac Addysg (1989), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Gwobr Sahitya Akademi (1978), Gwobr Goffa Winifred Holtby (1977), Gwobr y Guardian am waith Ffeithiol i Blant (1983), Gradd er anrhydedd o Brifysgol Leeds[8][9][10][11] .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Sahitya Akademi Award – English (Official listings)". Sahitya Akademi. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mawrth 2009. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120247880. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_86. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb120247880. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2015. "Anita Desai". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Desai". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Desai". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Anita Desai".
- ↑ Galwedigaeth: https://cs.isabart.org/person/141281. dyddiad cyrchiad: 1 Ebrill 2021. dynodwr abART (person): 141281.
- ↑ Anrhydeddau: https://web.archive.org/save/http://www.pib.nic.in/newsite/PrintRelease.aspx?relid=102735. https://www.webcitation.org/6U68ulwpb?url=http://mha.nic.in/sites/upload_files/mha/files/LST-PDAWD-2013.pdf. http://sahitya-akademi.gov.in/awards/akademi%20samman_suchi.jsp#ENGLISH. dyddiad cyrchiad: 25 Chwefror 2019. https://literature.britishcouncil.org/writer/anita-desai. dyddiad cyrchiad: 17 Mehefin 2016.
- ↑ https://web.archive.org/save/http://www.pib.nic.in/newsite/PrintRelease.aspx?relid=102735.
- ↑ https://www.webcitation.org/6U68ulwpb?url=http://mha.nic.in/sites/upload_files/mha/files/LST-PDAWD-2013.pdf.
- ↑ http://sahitya-akademi.gov.in/awards/akademi%20samman_suchi.jsp#ENGLISH. dyddiad cyrchiad: 25 Chwefror 2019.
- ↑ https://literature.britishcouncil.org/writer/anita-desai. dyddiad cyrchiad: 17 Mehefin 2016.