Kirkcaldy

tref yn Fife, yr Alban

Tref yn awdurdod unedol Fife, yr Alban, ydy Kirkcaldy[1] (Gaeleg yr Alban: Cair Chaladain;[2] Sgoteg: Kirkcaudy).[3] Fe'i lleolir ar arfordir dwyreiniol yr Alban, tua 18.6 milltir i'r gogledd o Gaeredin, a 44.4 milltir i'r de-orllewin o Dundee. Mae Caerdydd 515 km i ffwrdd o Kirkcaldy ac mae Llundain yn 549.2 km. Y ddinas agosaf ydy Caeredin sy'n 18 km i ffwrdd.

Kirkcaldy
Mathtref, large burgh Edit this on Wikidata
The Lang Toun.ogg, Kirkcaldy.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth48,108, 50,010 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iIngolstadt Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFife Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd18 ±1 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.1107°N 3.1674°W Edit this on Wikidata
Cod OSNT275915 Edit this on Wikidata
Cod postKY1, KY2 Edit this on Wikidata
Map

Amcangyfrwyd poblogaeth o tua 48,630 in 2008, felly hon yw'r anheddiad mwyaf yn Fife. Mae Kirkcaldy wedi cael y llysenw "Lang Toun", o'r Sgoteg am dref hir, ers amser maith, gan gyfeirio at brif stryd cynnar y dref a oedd 0.9 milltir o hyd, fel y dynodwyd ar fapiau'r 16eg a'r 17g. Yn ddiweddarach, tyfodd yn 4 milltir o hyd wrth i'r anheddiadau gerllaw, sef Linktown, Pathhead, Sinclairtown a Gallatown, gael eu cysylltu.

Mae'r cofnod cyntaf o'r dref yn dyddio o 1075, pan roddodd Malcolm III sir Kirkcaladunt i eglwys Dunfermline (Abaty Dunfermline yn ddiweddarach). O dan Robert I, ym 1327 newidiodd statws Kirkcaldy o fod yn dreflen i fod yn burgh a oedd yn ddibynnol ar Abaty Dunfermline. Ym 1451, cafodd statws feu-ferme a roddodd iddo annibyniaeth rhannol oddi wrth yr abaty; derbyniodd annibyniaeth llawn drwy siarter brenhinol gan Siarl I ym 1644.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 3 Hydref 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba Archifwyd 2019-10-03 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 3 Hydref 2019
  3. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 15 Ebrill 2022