Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban
Charles Stuart, Brenin Siarl I (19 Tachwedd 1600 - 30 Ionawr 1649) oedd Tywysog Cymru o 1616 hyd 1625, ac wedyn brenin Lloegr, yr Alban ac Iwerddon o 27 Mawrth 1625 tan ei ddienyddiad yn sgil Rhyfel Cartref Lloegr. Roedd ei deyrnasiad yn gyfnod o frwydro am rym rhwng y brenin a'r senedd. Yn bleidiwr brwd dros hawl ddwyfol brenhinoedd, gweithredai Siarl i gryfháu ei rymoedd ei hun, gan reoli heb y Senedd am gyfnod helaeth o'i deyrnasiad.
Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban | |
---|---|
Ganwyd | 19 Tachwedd 1600 (yn y Calendr Iwliaidd) Palas Dunfermline, Dunfermline |
Bu farw | 30 Ionawr 1649 (yn y Calendr Iwliaidd) Llundain |
Swydd | teyrn Lloegr, teyrn yr Alban, Dug Iorc, teyrn Iwerddon |
Dydd gŵyl | 30 Ionawr |
Tad | Iago VI yr Alban a I Lloegr |
Mam | Ann o Ddenmarc |
Priod | Henrietta Maria |
Plant | Siarl II, Mary Henrietta, Iago II & VII, y Dywysoges Elizabeth o Loegr, Y Dywysoges Anne o Loegr, Henry Stuart, Dug Caerloyw, Henrietta o Loegr, Charles James Stuart, Catherine Stuart |
Llinach | y Stiwartiaid |
llofnod | |
Bywyd cynnar
golyguYn ail fab i'r Brenin Iago VI o'r Alban a'i wraig Anne o Ddenmarc, cafodd Siarl ei eni ym Mhalas Dunfermline yn yr Alban ar 19 Tachwedd 1600. Ar farwolaeth Elizabeth I o Loegr yn mis Mawrth 1603, dyrchafwyd ei dad i orsedd Lloegr. Roedd Siarl yn blentyn eiddil, ac, ar y dechrau, fe'i gadawyd yn yr Alban yng ngofal nyrsys rhag ofn i'w iechyd waethygu ar y daith hir i Lundain.
Teyrnasiad cynnar
golyguEsgynodd Siarl i orsedd Lloegr a'r Alban ar farwolaeth ei dad ar 27 Mawrth 1625. Ar 13 Mehefin o'r un flwyddyn, priododd Henrietta Maria, yn absenoldeb y ddau gymar. Roedd ei senedd gyntaf, oedd wedi agor ym mis Mai, yn erbyn y briodas o'r cyntaf am mai pabyddes oedd hi, ac ofnid y byddai Siarl yn lleddfu mesurau yn erbyn pabyddion a thanseilio Protestaniaeth fel crefyddol swyddogol y deyrnas.
Brwydrau â'r Senedd
golyguRoedd Siarl yn brwydo â'r Senedd yn ystod rhan helaeth o'i deyrnasiad.
Achos llys a'i ddienyddio
golyguCyhuddiwyd Siarl o uchel frad ac uchel droseddau eraill ar 2 Ionawr 1649. Gwrthododd Siarl bledio gan fynnu nad oedd gan lys mo'r hawl i ddwyn achos yn erbyn brenin. Fe'i cafwyd yn euog, a llofnodwyd warant marwolaeth gan 59 o'r comisiynwyr, gan gynnwys John Jones, Maesygarnedd ar 29 Ionawr 1649. Fe'i dienyddiwyd y diwrnod wedyn ar lain o dir o flaen y Banqueting House yn Llundain.
Plant
golygu- Siarl Iago Stuart (1629)
- Siarl II, brenin Lloegr a'r Alban (1630-1685)
- Mari Stuart, tywysoges Orange (1631-1660)
- Iago II/VII, brenin Lloegr a'r Alban (1633-1701)
- Elisabeth Stuart (1635-1650)
- Anne Stuart (1637-1640)
- Catrin Stuart (1639)
- Harri Stuart (1640-1660)
- Henrietta Anne Stuart (1644-1670)
Arfau
golygu-
Arfau fel Tywysog Cymru -
Arfau fel Siarl I -
Arfau fel Siarl I yn yr Alban
Rhagflaenydd: Iago VI/I |
Brenin yr Alban 27 Mawrth 1625 – 30 Ionawr 1649 |
Olynydd: Siarl II (gan 1660) |
Rhagflaenydd: Iago VI/I |
Brenin Loegr 27 Mawrth 1625 – 30 Ionawr 1649 |
Olynydd: Siarl II (gan 1660) |
Rhagflaenydd: Harri Stuart |
Tywysog Cymru 1616 – 1625 |
Olynydd: Siôr |