Blodeugerdd o gerddi Arabeg gan yr awdur ac ysgolhaig Iranaidd Abu al-Faraj al-Isfahani (897-967) yw Kitab al-Aghani (Arabeg: كتاب الأغاني‎, 'Llyfr y Caneuon').

Kitab al-Aghani
Enghraifft o'r canlynolgwaith ysgrifenedig Edit this on Wikidata
AwdurAbu al-Faraj al-Isfahani Edit this on Wikidata
IaithArabeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Darlun o'r Kitab al-aghani (Llyfr y Caneuon), 1216-20, gan Abu al-Faraj al-Isfahani

Mae'n cynnwys detholiad o gerddi a chaneuon o'r cyfnodau cynharaf yn hanes llenyddiaeth Arabeg (hyd at y 9g), ynghyd â brasluniau o fywyd yr awduron a straeon amdanynt. Gosodwyd y cerddi ar alawon, ond yn anffodus nid yw'n bosibl darllen y nodiant bellach.

Oherwydd y manylion hanesyddol a geir ynddo, mae'r Kitab yn ffynhonnell hanesyddol bwysig. Mae'n cynnwys llawer o wybodaeth am ffordd o fyw ac arferion yr Arabiaid cynnar, ac mae'n un o'n ffynonellau pwysicaf am y cyfnod cyn-Islamaidd a blynyddoedd cynnar Islam.