Kniefall von Warschau
Arwydd o ostyngeiddrwydd a phenyd gan Willy Brandt, Canghellor Gorllewin yr Almaen, i ddioddefwyr Gwrthryfel Geto Warsaw oedd Kniefall von Warschau (Almaeneg am "Penliniad Warsaw"). Digwyddodd ar 7 Rhagfyr 1970 yn ystod taith gan Brandt i arwyddo Cytundeb Warsaw. Ar ôl y seremoni arwyddo, aeth Brandt i fedd y Milwr Dienw i osod plethdorch, ac yna i gofeb Gwrthryfel y Geto. Ar ôl gosod plethdorch o flaen y gofeb, penliniodd Brandt yn annisgwyl gan aros yn dawel ac yn llonydd am gyfnod. Cafodd delweddau o'r digwyddiad eu dangos ar draws y byd. Ar y pryd bu cryn beirniadaeth yng Ngorllewin yr Almaen gan haeru fod yr ystum yn ormod, ond yn ddiweddarach ystyriwyd y digwyddiad yn foment bwysig ym mhroses cymod rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl.
Math o gyfrwng | digwyddiad |
---|---|
Dyddiad | 7 Rhagfyr 1970 |
Lleoliad | Monument to the Ghetto Heroes |
Hyd | 30 eiliad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ei hunangofiant, ysgrifennodd Brandt:
“ | Ni gynlluniais ddim, ond gadewais Gastell Wilanow, lle'r oeddwn yn aros, â theimlad bod angen imi fynegi arwyddocâd eithriadol cofeb y geto. O waelod affwys hanes yr Almaen, o dan faich miliynau a lofruddwyd, fe wnes i'r hyn mae bodau dynol yn ei wneud pan fo iaith yn pallu.[1] | ” |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Brandt (1989/1992), t. 200.
Ffynhonnell
golygu- Brandt, W. My Life in Politics (Penguin: 1989/1992). Cyfieithwyd gan Anthea Bell.
Dolen allanol
golygu- (Almaeneg) Delwedd o'r Kniefall ar glawr Der Spiegel