Kolyma
Lleolir ardal Kolyma (Rwseg: Колыма́) yng ngogledd-ddwyrain eithaf Rwsia yn nwyrain Siberia (yn ôl y diffiniad traddodiadol o'r rhanbarth hwnnw), sef yn rhanbarth Dwyrain Pell Rwsia. Gorwedd Môr Dwyrain Siberia a Chefnfor yr Arctig i'r gogledd a Môr Okhotsk i'r de. Enwir yr ardal anghysbell iawn hon ar ôl ei phrif afon, sef Afon Kolyma, a mynyddoedd Kolyma a fu heb eu troedio gan neb cyn 1926. Mewn termau gweinyddol, mae Kolyma yn cyfateb yn fras i ranbarthau Ocrwg Ymreolaethol Chukotka ac Oblast Magadan.
Math | rhanbarth |
---|---|
Enwyd ar ôl | Afon Kolyma |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Siberia |
Sir | Oblast Magadan, Ocrwg Ymreolaethol Chukotka |
Gwlad | Rwsia |
Cyfesurynnau | 69°N 162°E |
Mae rhan ogleddol yr ardal yn gorwedd o fewn Cylch yr Arctig, ac mae ganddi hinsawdd is-Arctig gyda gaeafau oer iawn sy'n para am hyd at hanner y flwyddyn. Gorchuddir rhannau mawr o'r ardal gan permafrost a thirwedd twndra, gyda thirwedd taiga yn y de.
Yr unig dref o unrhyw faint yw dinas Magadan, gyda phoblogaeth o 99,399; hon yw prif borthladd gogledd-ddwyrain Rwsia. Mae ganddi fflyd fawr o longau pysgota ac mae llongau torri rhew yn llwyddo i gadw'r porth ar agor drwy'r flwyddyn.
Yng nghyfnod Stalin, daeth yr ardal yn ddrwgenwog fel lleoliad rhai o'r gulags gwaethaf dan y drefn Stalinaidd.