Duw Hindŵaidd a addolir fel y Bod Goruchel neu'r Realiti Pennaf gan Vaishnaviaid ac fel ymrithiad neu agwedd ar Brahma yn y traddodiadau Advaita a Smartiaeth, ac a adnabyddir hefyd fel Narayana, yw Vishnu neu Sri Vishnu (Devanagari विष्णु ; yngenir fel Fishnw). Ei gymar yw'r dduwies Lakshmi ac mae'n marchogaeth yr aderyn chwedlonol Garuda.

Vishnu Kumartuli Park Sarbojanin Arnab Dutta 2010.JPG
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolHindu deity, ffigwr chwedlonol Edit this on Wikidata
Rhan oTrimurti Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn y Vishnu Sahasranama disgrifir Vishnu fel hanfod hollbresennol popeth byw, arglwydd y gorffennol, y presennol a'r dyfodol sydd hefyd y tu hwnt i bob gradd amser, creawdwr a dinistriwr popeth sy'n bodoli, yr un sy'n cynnal, maethu a rheoli'r Bydysawd ac sy'n creu a datblygu popeth o'i fewn. Yn nysgeidiaeth y Trimurti, Vishnu sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r Bydysawd, gyda Brahma a Shiva yn gyfrifol am ei greu a'i ddinistrio neu ei drawsffurfio. Krishna yw ymrithiad enwocaf Vishnu.

Yn y Purana, portreadir Vishnu fel bod o liw'r cymylau (glas tywyll), gyda phedair braich, yn dal lotws (padma), gwialen (gada), consh (sada) a chakra (olwyn sy'n cynrychioli amser neu'r dharma). Yn y Bhagavad Gita, dywedir fod gan Vishnu 'ffurf byd-eang' (Vishvarupa) neu dragwyddol sydd y tu hwnt i'r amgyffred dynol.

Ceir gwybodaeth am avatars (bywydau, agweddau neu rathiadau) Vishnu yn y Puranas. Dywedir yno fod naw o'r avatars hyn wedi bod yn y gorffennol, gydag un arall i ddod yn y Kali Yuga presennol. Yn y traddodiadau Sanatana Dharma, addolir Vishnu naill ai yn uniongyrchol neu drwy ei avatars, yn enwedig yn rhith Rama, Krishna, Varaha a Narasimha. Mae ei ffurfiau eraill yn cynnwys Narayana a Vasudeva a'r pysgodyn Matsya.

Gweler hefydGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.