Kurmanbek Bakiyev
Gwleidydd Cirgistanaidd yw Kurmanbek Saliyevich Bakiyev (Cirgiseg: Курманбек Сали уулу Бакиев (Kurmanbek Sali Uulu Bakiev), Rwseg: Курманбек Салиевич Бакиев; ganed 1 Awst 1949) a fu'n Arlywydd Cirgistan o 2005 i 2010.
Kurmanbek Bakiyev | |
---|---|
Ganwyd | 1 Awst 1949 Masadan |
Man preswyl | Minsk |
Dinasyddiaeth | Cirgistan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Prif Weinidog Cirgistan, Prif Weinidog Cirgistan, Prif Weinidog Cirgistan, Prif Weinidog Cirgistan, Arlywydd Cirgistan, Arlywydd Cirgistan, Arlywydd Cirgistan, Arlywydd Cirgistan |
Plaid Wleidyddol | Ak Jol, People's Movement of Kyrgyzstan, Annibynnwr |
Priod | Tatyana Bakiyeva |
Plant | Maxim Bakiyev |
Gwobr/au | Urdd y "Gymanwlad", Medal 10 Jahre Astana, Order of the Friendship of Peoples |
Bywyd cynnar a phroffesiynol (1949–90)
golyguGaned ym mhentref Masadan (bellach Teyyit) yn Rhanbarth Jalal-Abad, yng Ngweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia, un o weriniaethau'r Undeb Sofietaidd. Derbyniodd ei radd o Sefydliad Polytechnig Kuybyshev ym 1972, ac yno cyfarfu â'i wraig Rwsiaidd, Tatyana Vasilyevna Bakiyeva.[1][2] Cychwynnodd ar ei yrfa yn beiriannydd trydanol ym mhwerdy Maslennikov yn Kuybyshev cyn iddo ymuno â Byddin yr Undeb Sofietaidd. Dychwelodd i Jalal-Abad gyda'i theulu ym 1979 i weithio mewn gorsaf drydan leol nes 1990.[2]
Gyrfa wleidyddol gynnar (1990–2005)
golyguYm 1990 fe'i etholwyd yn brif ysgrifennydd i gyngor tref Kok-Yangak. Yn ddiweddarach fe wasanaethodd yn llywodraethwr ar ranbarthau Jalal-Abad (1992?) a Chuy (1997?).
Penodwyd Bakiyev yn Brif Weinidog Cirgistan gan yr Arlywydd Askar Akayev yn Rhagfyr 2000. Bu'n rhaid iddo ymddiswyddo ar 22 Mai 2002 yn sgil ymateb treisgar gan yr awdurdodau yn erbyn rali wleidyddol yn ardal Aksy yn Jalal-Abad ym Mawrth.[2] Yn ôl pob sôn, gofynnodd Bakiyev i ddychwelyd i'w hen swydd yn llywodraethwr Chuy, ond cafodd ei wrthod gan yr arlywydd.[1]
Etholwyd Bakiyev i siambr is y senedd genedlaethol yn Hydref 2002, ac ymunodd â charfan o ganolbleidwyr yn ymgyrchu dros ddiddordebau'r rhanbarthau. Ym Medi 2004 penodwyd Bakiyev yn arweinydd Mudiad Pobl Cirgistan.[1]
Arlywyddiaeth (2005–10)
golyguYn sgil protestiadau ar raddfa eang yn erbyn y llywodraeth ym Mawrth 2005, a elwir "y Chwyldro Tiwlip", ffoes yr Arlywydd Akayev a'r Prif Weinidog Nikolay Tanayev o'r wlad. Penodwyd Bakiyev yn arlywydd dros dro.
Yn sgil terfysgoedd a phrotestiadau yn Ebrill 2010, wnaeth Bakiyev ffoi'r wlad ac ymddiswyddo.
Alltudiaeth (2010–)
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Kurmanbek Bakiyev. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Medi 2020.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) "Profile: Kurmanbek Bakiyev", BBC (29 Ebrill 2010). Adalwyd ar 12 Medi 2020.