Gwleidydd o Girgistan yw Askar Akayevich Akayev (ganed 10 Tachwedd 1944)[1] a fu'n Arlywydd Cirgistan o 1990 i 2005.

Askar Akayev
Ganwyd10 Tachwedd 1944 Edit this on Wikidata
Kyzylbayrak Edit this on Wikidata
Man preswylMoscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYr Undeb Sofietaidd, Cirgistan Edit this on Wikidata
AddysgDoethor y Gwyddorau mewn Ffiseg a Mathemateg Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Saint Petersburg State University of Information Technologies, Mechanics and Optics Edit this on Wikidata
Galwedigaetheconomegydd, mathemategydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Cirgistan, Arlywydd Cirgistan, Arlywydd Cirgistan Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Academi Gwyddorau y USSR
  • Prifysgol y Wladwriaeth, Moscaw Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd, Forward Kyrgyzstan Party, Annibynnwr Edit this on Wikidata
PriodMayram Akayeva Edit this on Wikidata
PlantAidar Akayev, Bermet Akayeva Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Bathodyn Anrhydedd, Medal Pushkin, Dostyk Order of grade I, Grand Cross of the Order of the White Double Cross‎, Kondratiev Medal, honorary doctor of the Peking University, meddyg anrhydeddus Sefydliad Cysylltiadau Rhyngwladol Cenedlaethol Moscaw, Order of the White Double Cross Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ym mhentref Kyzyl-Bayrak, Rhanbarth Chuy, yng ngogledd Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia, un o weriniaethau'r Undeb Sofietaidd. Gweithiwr ar fferm oedd ei dad.[1] Derbyniodd ddoethuriaeth yn y gwyddorau o Athrofa Mecaneg Fanwl ac Opteg Leningrad. Dychwelodd i Girgisia ym 1972 i weithio'n athro yn Sefydliad Polytechnig Frunze (bellach Bishkek). Ysgrifennodd Akayev ragor na chant o erthyglau academaidd a llyfrau ar bynciau mathemategol a chyfrifiadurol. Ym 1989 fe'i penodwyd yn llywydd ar Academi Gwyddorau Cirgisia. Gwasanaethodd hefyd yn bennaeth ar yr adran wyddonol ym Mhwyllgor Canolog y Blaid Gomiwnyddol yng Nghirgisia ers 1986.

Adeg datsefydlu'r Undeb Sofietaidd, etholwyd Akayev yn Arlywydd Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgisia gan y ddeddfwrfa ym 1990. Enillodd Gweriniaeth Cirgistan ei hannibyniaeth ym 1991, ac etholwyd Akayev yn arlywydd mewn etholiad poblogaidd. Cychwynnodd ar ryddfrydoli bywyd economaidd a gwleidyddol y wlad, a cheisiodd cynnal cysylltiadau cyfeillgar â Ffederasiwn Rwsia ac Unol Daleithiau America. Fe'i ail-etholwyd yn arlywydd ym 1995.

Ar ddechrau ei lywodraeth, cafodd Akayev ei ganmol am ei ymdrechion i ddad-Sofieteiddio'i wlad. Ceisiodd osgoi gwrthdaro ethnig yn y wlad drwy gydnabod hawliau'r lleiafrifoedd megis yr Wsbeciaid, a chyfarwyddodd ymgyrchoedd yn erbyn grwpiau bychain o wrthryfelwyr Islamaidd. Yng nghanol y 1990au, derbyniodd feirniadaeth am iddo fygu newyddiadurwyr, carcharu ei wrthwynebwyr gwleidyddol, a newid y cyfansoddiad i atgyfnerthu ei rym.

Enillodd Akayev ei drydydd etholiad arlywyddol yn Hydref 2000, gyda 75% o'r bleidlais, ond cafodd y canlyniadau ei amau o fod yn llwgr gan arsyllwyr tramor. Gwaethygodd yr economi a llygredigaeth wleidyddol yn y wlad, a chynhaliwyd protestiadau yn ei erbyn yn 2002 a 2003. Yn Chwefror 2003 aeth Akayev ati i gryfhau ac ymestyn pwerau'r arlywyddiaeth, gan beri rhagor o feirniadaeth, er iddo ennill refferendwm i gadarnhau y byddai'n dal yr arlywyddiaeth nes 2005.

Ym Mawrth 2005, ffoes Akayev i Rwsia yn sgil gwrthdystiadau yn ei erbyn. Ar 4 Ebrill 2005, ymddiswyddodd Akayev yn ffurfiol o'r arlywyddiaeth.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) "Profile: Askar Akayev", BBC (4 Ebrill 2005). Adalwyd ar 11 Medi 2020.
  2. (Saesneg) "Akayev quits as Kyrgyz president", BBC (4 Ebrill 2005). Adalwyd ar 11 Medi 2020.