Kyrgyz Entsykopediasy
Gwyddoniadur swyddogol a gyhoeddir yng Nghirgistan yw Kyrgyz Entsykopediasy. Sefydlwyd y prosiect yn 1968 gan Academi Gwyddorau Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Cirgistan, a oedd ar y pryd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd. O 1974 i 1999, rheolwyd y cywaith gan Bwyllgor y Wladwriaeth dros Gyhoeddi a'r Fasnach Lyfrau. Sefydlwyd Canolfan Iaith a Gwyddoniadur y Wladwriaeth yn 1999 i gymryd dros waith y gwyddoniadur, yn yr ieithoedd Cirgiseg a Rwseg. Cyhoeddwyd chwe chyfrol yn Girgiseg, y Sovettyk Kyrgyzstan, yn y 1980au, ac un gyfrol dan y teitl Kirgizskaya Sovetskaya Sotsialisticheskaya Respublika. Yn y 1990au cyhoeddwyd Manas Entsyklopediasy mewn dwy gyfrol. Cyhoeddwyd Kyrgyzstan: Entsyklopedia, yn Girgiseg ac yn Rwseg, yn 2001.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwyddoniadur cenedlaethol |
---|---|
Cyhoeddwr | Center of National Language and Encyclopedia |
Gwlad | Cirgistan |
Iaith | Cirgiseg |
Dyddiad cyhoeddi | 1976 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Rafis Abazov, Historical Dictionary of Kyrgyzstan (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 170.