Léon Damas
Bardd Ffrangeg o Guyane oedd Léon-Gentran Damas (28 Mawrth 1912 – 22 Ionawr 1978) a oedd yn un o sefydlwyr y mudiad Négritude.
Léon Damas | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mawrth 1912 Cayenne |
Bu farw | 22 Ionawr 1978 Washington |
Man preswyl | Washington |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, bardd, llenor |
Swydd | Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | Adran Ffrengig o'r Gweithwyr Rhyngwladol |
Mudiad | Négritude |
Gwobr/au | Prix littéraire des Caraïbes |
Ganwyd yn Cayenne, prifddinas Guyane. Aeth i ynys Martinique i fynychu'r Lycée Victor-Schœlcher yn Fort-de-France, ac yno bu'n gyfaill i Aimé Césaire, un o sefydlwyr eraill Négritude. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Paris yn ogystal â chyrsiau ychwanegol am anthropoleg, hanes, ac ieithoedd Dwyreiniol. Ymunodd â'r mudiadau adain chwith a gwrthdrefedigaethol, ac ymddiddorodd yng nghelf y swrealwyr a diwylliant yr Americanwyr Affricanaidd. Cyhoeddodd ei gerddi cyntaf yn 1934, a chyd-sefydlodd y cylchgrawn L’étudiant noir (1934–40) gyda Césaire a Leopold Senghor.[1]
Gwasanaethodd ym Myddin Ffrainc a'r résistance yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel, cynrychiolodd Guyane yn ddirprwy yng Nghynulliad Cenedlaethol Ffrainc o 1945 i 1951. Gweithiodd i UNESCO ac i Radio France yn y 1960au. Symudodd i'r Unol Daleithiau yn 1970 a bu'n gweithio mewn colegau a phrifysgolion yn Washington, D.C. Bu farw yn Washington, D.C. yn 65 oed.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 James M. Manheim, "Damas, Léon-Gontran 1912–1978" yn Contemporary Black Biography (Thomson Gale, 2005). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 29 Awst 2019.
Darllen pellach
golygu- Daniel L. Racine (gol.), Léon-Gontran Damas, 1912-1978: founder of Negritude, A Memorial Casebook (University Press of America, 1979)
- Keith Q. Warner (gol.), Critical Perspectives on Léon-Gontran Damas (Three Continents Press, 1988)