Economegydd Ffrengig a oedd yn un o brif ffigurau Ysgol Lausanne oedd Marie-Esprit-Léon Walras (16 Rhagfyr 18345 Ionawr 1910) sydd yn nodedig am fformiwleiddio damcaniaeth gwerth ymylol ac am arloesi damcaniaeth cydbwysedd cyffredinol. Ei gampwaith ydy Éléments d’économie politique pure (1874–77).

Léon Walras
GanwydLéon Walras Edit this on Wikidata
16 Rhagfyr 1834 Edit this on Wikidata
Évreux Edit this on Wikidata
Bu farw5 Ionawr 1910 Edit this on Wikidata
Clarens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetheconomegydd, athro cadeiriol, mathemategydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
MudiadYsgol Lausanne Edit this on Wikidata
TadAuguste Walras Edit this on Wikidata

Ganed yn Évreux yn ardal Normandi, Teyrnas y Ffrancod, yng nghyfnod brenhiniaeth Gorffennaf, yn fab i'r economegydd Auguste Walras. Methodd yr arholiad mynediad i'r École Polytechnique ym Mharis ddwywaith, am iddo beidio adolygu ei fathemateg, ac aeth i astudio yn yr École des Mines yn 1854. Gadawodd yr ysgol ar ôl blwyddyn yn unig, a throdd ei sylw at lenyddiaeth am gyfnod. Yn 1858, cafodd ei berswadio gan ei dad i astudio economeg.[1]

Oherwydd diffyg ei addysg ffurfiol, ni fedrai Walras ennill swydd yn y brifysgol. Treuliodd ychydig flynyddoedd yn newyddiadura ac yn gweithio i sawl busnes aflwyddiannus cyn iddo sefydlu banc gyda Léon Say yn 1865 ar gyfer cydweithfaoedd cynhyrchwyr yng ngorllewin Ewrop. Sefydlwyd hefyd cyfnodolyn misol ganddynt ar bwnc busnes cydweithredol, Le travail, yn 1866. Methodd y banc a'r cyfnodolyn yn 1868, ond yn 1870 penodwyd Walras yn athro economi wleidyddol ym Mhrifysgol Lausanne. Ymddeolodd yn 1892, a fe'i olynwyd yn y swydd academaidd honno gan Vilfredo Pareto. Bu farw Léon Walras yn 75 oed yn Clarens, ger Montreux, Vaud, yng ngorllewin y Swistir.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Léon Walras. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 7 Chwefror 2020.