Economegydd, cymdeithasegydd, ac athronydd Eidalaidd oedd Vilfredo Pareto (15 Gorffennaf 184819 Awst 1923) a oedd yn un o brif ffigurau Ysgol Lausanne.

Vilfredo Pareto
Vilfredo Pareto 1870s2.jpg
Ganwyd 15 Gorffennaf 1848 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
Bu farw 19 Awst 1923 Edit this on Wikidata (75 oed)
Céligny Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Brenhiniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Politecnico di Torino Edit this on Wikidata
Galwedigaeth economegydd, athronydd, cymdeithasegydd, academydd, peiriannydd, mathemategydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus am The Mind and Society Edit this on Wikidata
Mudiad Ysgol Lausanne Edit this on Wikidata
Tad Raffaele Pareto Edit this on Wikidata
Mam Marie Métenier Edit this on Wikidata
Llofnod
Vilfredo Pareto signature.png

BywgraffiadGolygu

Ganed Wilfried Fritz Pareto ar 15 Gorffennaf 1848 ym Mharis, Ffrainc. Astudiodd fathemateg a ffiseg ym Mhrifysgol Torino, a derbyniodd ei radd yno yn 1869. Gweithiodd yn beiriannydd, ac yn ddiweddarach cafodd swydd yn rheoli rheilffordd ac mewn gwaith haearn. Astudiodd athroniaeth a gwleidyddiaeth tra'n byw yn Fflorens, ac ysgrifennodd sawl erthygl ar bwnc economeg, gan ddadansoddi problemau economaidd drwy ddulliau mathemategol. Yn 1893 fe'i penodwyd i olynu Léon Walras yn athro economi wleidyddol ym Mhrifysgol Lausanne. Bu farw Vilfredo Pareto yn Genefa, y Swistir, ar 19 Awst 1923 yn 75 oed.[1]

EconomegGolygu

Yn ei gyfrol gyntaf, Cours d'économie politique (1897), gosodir Pareto ei ddeddf parthed dosbarthiad incwm. Ei waith mwyaf dylanwadol yw Manuale di economia politica (1906) sydd yn ymhelaethu ar ei ddamcaniaeth o economeg bur ac yn cyferbynnu budd economaidd (utilità) â boddhad economaidd (ofelimità). Dyfeisiodd gysyniad optimwm Pareto, a gafodd ddylanwad pwysig ar economeg lles.

CymdeithasegGolygu

Yn nechrau'r 20g, trodd Pareto at gymdeithaseg er mwyn ceisio datrys y problemau nad oedd economeg yn berthnasol iddynt. Ysgrifennodd Trattato di sociologia generale (1916), ei waith pwysicaf yn ei ôl ef, sydd yn ymdrin â gweithredoedd unigolion a chymdeithasau. Mae'n llunio ei ddamcaniaeth o ryngweithiadau rhwng y bobl gyffredin â'r elît fel a ganlyn: er mwyn ymuno â chylchoedd uchaf cymdeithas, mae aelodau o'r dosbarthiadau is yn ceisio gwella eu statws drwy fanteisio ar y doniau a'r cyfleoedd sydd ganddynt. Nid yw aelodau'r elît yn ymdrechu i wella'u stad, ac o ganlyniad mae rhai ohonynt yn ildio'u breintiau i'r goreuon o haenau is cymdeithas sydd yn esgyn i'r dosbarth uchel ac yn cystadlu i gymryd lle'r uchelwyr dirywiedig. Gan hynny, ceir cylchrediad o aelodau'r elît. Mae'r ddamcaniaeth hon yn tybio goruchafiaeth yr elît, a chaiff ei ystyried gan rai yn esiampl o syniadaeth gyn-ffasgaidd.

Pareto oedd y cyntaf i ddefnyddio'r gair elît mewn ystyr gymdeithasegol, i gyfeirio at yr ychydig bobl sydd yn rheoli trwch y boblogaeth. C. Cydnabuwyd Pareto yn un o sefydlwyr damcaniaeth gweithredu gwirfoddol gan Talcott Parsons yn ei lyfr The Structure of Social Action (1937). Fe'i ystyrir hefyd yn ddylanwad pwysig ar ddatblygiad damcaniaeth systemau cymdeithasol.

LlyfryddiaethGolygu

  • "La mortalità infantile e il costo dell'uomo", Giornale degli Economisti (Tachwedd 1893), tt. 451–456.
  • Cours d'économie politique (Lausanne: F. Rouge, 1897).
  • Manuale di economia politica (Milan: Società Editrice, 1906).
  • Trattato di sociologia generale, 4 cyfrol (Fflorens: G. Barbèra, 1916).

CyfeiriadauGolygu

  1. (Saesneg) Vilfredo Pareto. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Ionawr 2020.