Sebastián Lerdo de Tejada

Gwleidydd Mecsicanaidd oedd Sebastián Lerdo de Tejada (24 Ebrill 182321 Ebrill 1889) a fu'n Arlywydd Mecsico o 1872 i 1876.

Sebastián Lerdo de Tejada
Ganwyd24 Ebrill 1823, 1827 Edit this on Wikidata
Xalapa Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 1889, 1889 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMecsico Edit this on Wikidata
Alma mater
  • San Ildefonso College Edit this on Wikidata
Galwedigaethbarnwr, gwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Mecsico, Aelod o Siambr Dirprwyon Mecsico, Secretary of Foreign Affairs of Mexico Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolLiberal Party Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Jalapa yn nhalaith Veracruz i deulu tlawd, a bu farw ei rieni pan oedd yn fachgen. Llwyddodd i dderbyn addysg a daeth yn athro cyfreitheg ac yn rheithor Coleg San Ildefonso yn Ninas Mecsico. Ymunodd â'r Arlywydd Benito Juárez yn y frwydr yn erbyn y Ffrancod yn y 1860au.[1]

Daeth Lerdo yn Arlywydd Mecsico yn sgil marwolaeth Juárez yn 1872. Cafodd ei ddymchwel gan Porfirio Díaz mewn gwrthryfel yn 1876, ac aeth yn alltud. Bu farw yn Ninas Efrog Newydd yn 65 oed.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Sebastián Lerdo de Tejada. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2019.